Skip to main content

Lluosi - Coginio Prydau Rhad

Rhan-amser
Lefel 1
Kingsway Centre
Tri wythnos

Arolwg

Prosiect Lluosi! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!

Cwrs byr yw Coginio Prydau Rhad a fydd yn eich helpu i wneud penderfyniadau call o ran paratoi prydau bwyd.

Bydd y testunau’n cynnwys:

  • Nodi sut y gellir addasu ryseitiau er mwyn creu prydau rhad.
  • Pwyso a mesur a yw cynigion arbennig yn ffyrdd o arbed arian mewn gwirionedd.
  • Dewis dulliau coginio cywir i greu prydau rhad

Ariennir Prosiect Lluosi yn llawn gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau: 
•    19+ oed
•    Byw neu’n gweithio yn Abertawe

Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.

TBydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn sesiynau 3 awr dros gyfnod o 3 wythnos yng Nghanolfan Ffordd y Brenin.

Nid oes asesiad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Yn hytrach, byddwn yn casglu tystiolaeth o ddysgu. Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Agored.

Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.

E-Bost: multiply@gcs.ac.uk 

Cooking on a budget - SPF
Cod y cwrs: VA040 PKE4
10/05/2024
Ffordd y Brenin
3 weeks
Fri
2-5pm
£0
Lefel 1