Skip to main content

Lluosi - Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif Lefel 2

Rhan-amser
Lefel 2
Sketty Hall
10 wythnos

Arolwg

Mae Prosiect Lluosi wedi cyrraedd! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!

Bwriad y cwrs Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif Lefel 2 yw helpu unigolion i wella eu sgiliau rhifedd ar gyfer bywyd bob dydd. Mae’r cymhwyster yn gyfwerth â TGAU gradd C (ac uwch), felly gall y cwrs arwain at gyflogaeth, addysgu bellach ac uwch neu brentisiaethau.

Cyflwynir y cwrs gan diwtoriaid, a byddwch yn derbyn arweiniad o ran cynnwys y cwrs yn dibynnu ar ganlyniadau eich asesiad WEST. Byddwch yn ymgymryd â’r asesiad hwn cyn i’r cwrs ddechrau a bydd y canlyniadau’n rhoi gwybod i’ch tiwtor pa bynciau sydd angen canolbwyntio arnynt.

Ariennir Prosiect Lluosi yn llawn gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gwybodaeth allweddol

Meini prawf cymhwyso ar gyfer cyrsiau a ariennir gan Lluosi - 
•    19 oed neu hŷn
•    Yn byw neu’n gweithio yn Abewrtawe.
Rhaid cyflwyno tystiolaeth o’r uchod yn ystod gwers gyntaf y cwrs. Mae rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir ar gael yma.

Asesir y cymhwyster hwn mewn da rhan - tasg a gwblheir yn ystod y cwrs a phrawf cadarnhau ar ddiwedd y cwrs.

Ymunwch ag un o’n cyrsiau Lluosi byr i barhau ar eich taith fathemateg!

E-Bost: multiply@gcs.ac.uk 

ESW Application of Number
Cod y cwrs: 2340N PTE2
07/06/2024
Plas Sgeti
10 weeks
Fri
10am - 1pm
£0
Lefel 2