Trosolwg o’r Cwrs
Drwy gydol y flwyddyn byddwn yn rhedeg tri chwrs annibynnol, 10 wythnos ar Ofaint Arian.
- Cwrs 1: Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu hanfodion gofaint arian gan gynnwys defnyddio llif rwyllo, gweadu, ffeilio, llathru, soldro arian, gwneud bar a thlws crog arian.
- Cwrs 2: Byddwch yn dysgu gwneud modrwyau arian plaen ac addurnedig i’r maint cywir.
- Cwrs 3: Byddwch yn dysgu sut i osod cerrig lled-werthfawr mewn darn o emwaith arian o’ch dewis, gallai hwn fod yn dlws crog, yn glustdlysau neu yn fodrwy arall.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae pob cwrs Gofaint Arian yn annibynnol o’r lleill – byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol ar bob cwrs yn ôl yr angen.
Mae iechyd a diogelwch yn agwedd bwysig ar y cwrs.
Darperir yr holl offer mewn gweithdy llawn cyfarpar. Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu eu harian eu hunain sydd ar gael yn www.cooksongold.com.
Bydd cost y defnyddiau yn dibynnu ar ddyluniadau unigol a dewis cerrig. Bydd o leiaf un prosiect i’w gwblhau ar bob cwrs.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffi stiwdio £10