Technegau Gwydr
Arolwg
Bydd y cwrs hwn yn eich annog i archwilio ac arbrofi ag amrywiaeth o dechnegau gwydr a chymwysiadau arwyneb, offer defnyddiau ac yn cynnwys technegau gwydr twym. Dyma gyfle go iawn i chi fod yn greadigol ac arbrofi â thoddi gwydr, slympio, technegau gwneud mowldiau mewn amrywiaeth o brosesau.
Mae hwn yn gwrs cychwyn delfrydol neu os ydych chi am ddatblygu’ch sgiliau ymhellach ar gyfer eich ymarfer creadigol eich hun. Bydd gennych fynediad i’n cyfleusterau gweithdy gwydr pwrpasol lle gallwch weithio’n gynaliadwy gyda gwydr wedi’i ailgylchu, ffritiau gwydr, conffeti ac ati neu adeiladu 3D gyda gludiau UV.
Bydd pob agwedd ar weithio’n ddiogel mewn gweithdy gwydr yn cael sylw a bydd tiwtor profiadol yn eich tywys a’ch mentora.
Ychwanegwyd Gorffennaf 2021
Gwybodaeth allweddol
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill..