Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs hwn yn gyfle gwych i weithio gyda gwydr wedi’i ffurfio mewn odyn i’r rhai sydd am ddysgu’r hanfodion neu ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
Bydd y gweithdai gwydr yn cwmpasu arferion gweithdy diogel a llawer o wahanol sgiliau megis sut i weithio’n ddiogel a pharatoi gwydr, a sut i ddefnyddio gwahanol declynnau ac offer. Dangosir i chi hefyd sut i weithio mewn dull cynaliadwy.
Y technegau a ddangosir yw torri, asio a slympio, a byddwch hefyd yn creu mowld clai y gellir ei ddefnyddio sawl gwaith. Yn bennaf byddwn yn gweithio gyda gwydr nofiol, llinynnau, conffeti a ffrits. Gadewch i ni ddechrau gyda thechnegau hynafol fel castio tywod a gorffen gyda phrosesau mwy modern fel chwythu tywod.
Yn bwysig, bydd gweithdai rheolaidd ar sut i raglennu odyn i hybu hyder wrth benderfynu pa fath o ddilyniant tanio sydd ei angen i ddefnyddio tymereddau amrywiol i gynhyrchu arteffact gorffenedig.
Ychwanegwyd Gorffennaf 2019
Gofynion Mynediad
Nid oes angen profiad na gwybodaeth flaenorol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Cewch gyfle i weld y technegau sylfaenol sy’n gysylltiedig â thorri, siapio a chydosod gwydr, a’r defnydd o gynhwysiant i ddylunio prosiect unigol tuag at ddiwedd y cwrs.
Mae’r cyfleusterau nid yn unig yn cynnwys gweithdy gwydr pwrpasol ond hefyd ystafell TG a llyfrgell. Nod y cwrs hwn yw cynnig yr hyblygrwydd i chi ganolbwyntio ar y technegau sydd orau gennych a’u datblygu i greu canlyniad proffesiynol. Byddwn ni’n rhoi’r offer a’r defnyddiau sylfaenol angenrheidiol i’r myfyrwyr ond gallant brynu defnyddiau gwydr arbenigol gan warmglass.co.uk a’u defnyddio yn y gweithdai.
Modiwlau
- Gallu cynhyrchu dau arteffact gwydr gorffenedig
- Gallu cymhwyso technegau dylunio gan ddefnyddio decalau, lliwiau serameg, chwythu tywod
- Gallu pacio odyn a rhaglennu dilyniant tanio priodol
- Gallu dadbacio’r odyn
- Gallu creu gwahanol fathau o fowldiau ar gyfer slympio gwydr.
Bydd gwaith ystafell ddosbarth yn cynnwys:
- Cael eich dangos sut i allu gweithio’n ddiogel wrth drin a thorri gwydr
- Bydd y dysgwyr yn cael gwybodaeth yngylch sut i wneud mowldiau ar gyfer gwydr
- Bydd gweithdai ar sut i raglennu odyn ar gyfer amrywiaeth o daniadau a gwybod am gamau slympio
- Bydd y dysgwyr yn profi gwahanol dechnegau chwythu tywod a masgio ar gyfer trin arwyneb
- Bydd y dysgwyr yn gallu defnyddio offer, defnyddiau a chyfarpar
- Byddant yn dysgu sut i baratoi gwydr ar gyfer slympio
Y dulliau asesu fydd arddangosiad ymarferol a chynhyrchu arteffact.
Meini prawf asesu:
- 1.1 Arferion diogel yn y gweithdy
- 1.2 Trin a throrri gwydr yn ddiogel ac yn hyderus
- 2. Cynhyrchu mowld llwyddiannus ar gyfer slympio
- 3.1 Amlinellu’r camau yn y broses o slympio gwydr
- 3.2 Amlinellu’r rhaglenni tanio yn y broses o slympio gwydr
- 4.1 Gallu masgio a pharatoi arteffact ar gyfer chwythu tywod
- 4.2 Gweithredu’r offer chwythu tywod yn ddiogel
- 5. Dangos sut i ddefnyddio amrywiaeth o offer, cyfarpar a defnyddiau sydd eu hangen.
- 6.1 Paratoi gwydr ar gyfer slympio
- 6.2 Cynhyrchu darn o wydr wedi’i slympio
- Gwybodaeth asesu – mae 1.1 yn cynnwys:
- Offer trydanol
- Trin gwydr/llinynnau/ffritiau’n ddiogel
- Trin hylifau’n ddiogel
- Defnyddio offer llaw.
Mae 2.1 yn cynnwys:
- Odyn
- Chwythwr tywod
- Papur ffibr seramig
- Mowld cymysgedd plastr
- Mowldiau tywod
- Mowldiau clai
Cyfleoedd Dilyniant
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol fel cyflwyniad i dechnegau gwydr twym ac oer. Bydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi i’ch helpu i ddechrau fel artist gwydr neu ei defnyddio i ddarganfod ymhellach fyd hudolus gwydr a’ch ysbrydoli i symud ymlaen ar eich taith yn gweithio gyda gwydr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Y ffioedd stiwdio yw £20
Pe hoffai myfyrwyr ddefnyddio defnyddiau arbenigol eraill byddem yn argymell y cyflenwyr canlynol:
Warm Glass
Creative Glass Guild
Rhaid i fyfyrwyr wisgo llewys hir (oferôl yn ddelfrydol) ac esgidiau synhwyrol, cryf wedi’u gorchuddio, â sodlau isel.