Skip to main content

Tylino Pen Indiaidd Lefel 3 - Tystysgrif Available in Welsh

Rhan-amser
Lefel 3
GCS
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
15 wythnos
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

Mae VTCT Tystysgrif Lefel 3 mewn Tylino Pen Indiaidd yn gymhwyster galwedigaethol a fydd yn eich paratoi i ddarparu triniaethau tylino pen Indiaidd i lefel uchel o allu galwedigaethol, gan roi modd i chi ddarparu’ch gwasanaethau eich hun i gleientiaid. 

  • Darparu tylino pen Indiaidd 
  • Gofalu am gleientiaid a chyfathrebu â nhw mewn diwydiannau cysylltiedig â harddwch 
  • Monitro a chynnal arferion iechyd a diogelwch yn y salon 
  • Hyrwyddo a gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau i gleientiaid.

Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT

 

Gwybodaeth allweddol

  • Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn ond byddai’n debygol y bydd dysgwyr yn meddu ar gymwysterau cyfwerth cysylltiedig ar Lefel 2 neu Lefel 3 mewn pynciau tebyg neu gyflenwol. 
  • Cyfweliad 
  • Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1. 

Asesiad ymarferol parhaus, arholiadau, astudiaethau achos ac aseiniadau ysgrifenedig. 

Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol.  

Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi ar gyfer rôl fel therapydd tylino arbenigol yn y sector gwallt, harddwch neu therapi cyflenwol. 
Mae cyfleoedd gyrfa yn cynnwys gweithio mewn clinigau therapi cyflenwol, salonau harddwch masnachol, salonau gwallt, sbas dydd neu weithio’n annibynnol, yn hunangyflogedig, fel gweithiwr symudol neu gartref. 

Rhaid i ddysgwyr brynu crys polo. Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.