Skip to main content

Lansio ymgyrch casglu sbwriel yn Nhycoch

Roedd pawb at eu gwaith yng Ngholeg Gŵyr Abertawe pan ddaeth llysgennad yr Elyrch, Lee Trundle, i gefnogi ymgyrch casglu sbwriel newydd sbon ar gampws Tycoch.

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd grŵp tiwtorial gwahanol o Dycoch yn patrolio’r ardal o amgylch y campws bob dydd Iau, gan wirio pedwar llwybr yn Nhycoch/Sgeti a chan ddefnyddio cyfarpar a roddwyd yn garedig iawn gan Ddinas a Sir Abertawe.

Tagiau

Y Coleg yn cynnal digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag Academi Radio 1 y BBC.

Bu’n bleser mawr gan Goleg Gŵyr Abertawe gynnal cyfres o ddigwyddiadau’r wythnos diwethaf ar Gampws Tycoch wrth i Academi Radio 1 yn Theatr y Grand Abertawe ym mis Mai nesáu.

Ddydd Gwener 20 Ebrill, cafodd myfyrwyr y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy holi ac ateb gyda DJ Matt Edmondson o Radio 1 y BBC lle cafwyd cyfle iddynt ddysgu sut mae gwneud darllediad byw a chyfrinachau’r grefft sy’n rhan ohono.

Ailddatblygiad newydd gwerth £4 miliwn yn Nhycoch yn agor

Agorwyd prosiect ailddatblygu newydd sbon gwerth £4 miliwn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn swyddogol gan Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Buddsoddwyd £1.5 miliwn gan Raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru  yn y prosiect ailddatblygu, ac mae wedi trawsnewid blaen Campws Tycoch yn lle dysgu a chymdeithasol modern.

Mae gan y llawr isaf dderbynfa newydd sbon, ystafell gyffredin i fyfyrwyr a siop goffi fasnachol, yn ogystal â swyddfeydd pwrpasol i fyfyrwyr, megis derbyn, cyllid a chyngor gyrfaoedd.

Tagiau

Llyfrgell newydd i Gampws Tycoch

Mae myfyrwyr a staff yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi dathlu ailagoriad swyddogol llyfrgell campws Tycoch.

Mae’r lle dysgu arloesol, a agorwyd gan yr awdur plant a chyflwynydd BBC Cymru, Lucy Owen, yn cynnwys lle cydweithredu, stiwdio technoleg gwybodaeth dysgu, bwth acwstig a lleoedd astudio unigol / mewn grwpiau.

Tagiau

Gwasanaeth Parcio a Theithio i ddod i ben

Bydd y gwasanaeth Parcio a Theithio am ddim sydd wedi rhedeg o Fforestfach i gampws Tycoch er mis Tachwedd yn DOD I BEN ar ddydd Gwener 7 Ebrill.

Bydd lleoedd parcio ychwanegol ar gael yn Nhycoch dros yr wythnosau nesaf oherwydd bydd nifer o’n cabanau dysgu dros dro yn cael eu symud o’r safle.

Byddwch cystal â sicrhau eich bod yn parcio yn y lleoedd parcio dynodedig. Gallwch ddefnyddio lleoedd parcio i bobl anabl dim ond os ydych yn arddangos bathodyn anabledd glas swyddogol neu gerdyn parcio’r Coleg i bobl anabl.

Tagiau

Myfyriwr peirianneg yn ennill gwobr gweithgynhyrchu

Mae myfyriwr Peirianneg Coleg Gŵyr Abertawe, Amadou Khan, wedi ennill gwobr yn ddiweddar yn nigwyddiad mawreddog Gwobrau Gweithgynhyrchu’r Dyfodol EEF yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Cipiodd Amadou y wobr Efydd yn y categori Llwybr at Brentisiaeth – Myfyriwr y Flwyddyn.

Roedd Amadou yn fyfyriwr Llwybr at Brentisiaeth yn ystod 2013/14. Roedd yn dangos brwdfrydedd mawr tuag at bob agwedd ar y rhaglen, gan gynnwys ei leoliad gwaith yn AAH Pharmaceuticals. Ar ôl cwblhau’r Llwybr at Brentisiaeth, symudodd ymlaen i ddilyn Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg.