Skip to main content
Graduation photo

Graddio

Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch o gydnabod gwaith caled a chyflawniadau ein myfyrwyr Addysg Uwch drwy gynnal seremoni raddio flynyddol.

Roedd ein seremoni raddio ddiweddaraf - a gynhaliwyd yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe - yn ddathliad bythgofiadwy o gyflawniadau rhagorol ein graddedigion Addysg Uwch ac yn gyfle i gydnabod eu teithiau a’u hymroddiad gwych.

Braf oedd clywed gan Adele Thomas, Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Swyddog Gweithredol Opera Cymru. O'i chyfnod fel myfyrwraig yng Ngholeg Gŵyr, mae taith Adele fel cyfarwyddwraig arobryn wedi bod yn anhygoel. Cyflwynodd Ian Price OBE, Cadeirydd Llywodraethwyr Coleg Gŵyr Abertawe, Gymrodoriaeth Anrhydeddus y Coleg iddi. Derbyniodd yr anrhydedd  hwn oherwydd ei chyfraniad nodedig i'r celfyddydau a'r ffaith ei bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer myfyrwyr y dyfodol.

Roedd y seremoni hefyd yn gyfle i dalu clod i dalentau anhygoel ein myfyrwyr Celfyddydau Perfformio Lefel 4 a band jazz y Coleg. Roedd eu perfformiad yn wych ac yn sicr yn adloniant gwych i bawb a oedd yn bresennol.

Diolch i bawb a wnaeth y diwrnod arbennig hwn yn bosibl!

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Seremoni Graddio, cysylltwch â graduation@gcs.ac.uk

Cwestiynau Cyffredin - Graddio 2024

Oes.

Cewch e-docyn gan system archebu Ede & Ravenscroft, y gallwch ei argraffu neu ei ddangos ar sgrin eich ffôn. Byddwch yn derbyn y tocyn hwn ar 22 Tachwedd.  

Os nad ydych wedi derbyn eich tocyn erbyn 25 Tachwedd, cysylltwch â graduation@gcs.ac.uk.

Dylech gyrraedd Arena Abertawe o 4.30pm a dim hwyrach na 5.45pm. Byddwch chi’n cofrestru, casglu eich gŵn a chael yr opsiwn o gael tynnu lluniau.

Os byddwch yn cyrraedd yn hwyrach na hyn, ni allwn sicrhau lle i chi yn y seremoni.

Bydd angen i’ch gwesteion gyrraedd yr un pryd â chi i fynd i mewn i’r arena. Os bydd eich gwesteion yn hwyr, bydd angen i chi fynd i'w casglu nhw.

Bydd gwiriadau diogelwch yn cael eu cynnal ger y prif ddrysau mynediad. Byddwn yn cynnal chwiliadau bagiau wrth y fynedfa.

Os bydd angen i chi adael yr arena, bydd angen i chi ymgymryd â gwiriad diogelwch bob tro rydych chi’n dychwelyd i’r adeilad.

1½ awr. Bydd y seremoni ffurfiol yn dechrau am 7.00pm a bydd yn rhedeg tan 8.30pm.

Mae maes parcio wedi’i leoli o dan Arena Abertawe ac mae lleoedd parcio eraill ar gael yng nghanol y ddinas https://www.abertawe.gov.uk/meysyddparciocanolyddinas (agor mewn ffenest newydd).

Bydd. Bydd derbyniad â diodydd gyda diod am ddim ar gael. Bydd y prif far a stondin bwyd ar agor i brynu bwyd yn y lleoliad. 

Oherwydd y ffordd rydych yn cael eich galw i’r llwyfan, bydd gradddedigion yn eistedd ar wahân i westeion. Bydd angen i raddedigion eistedd o 6.15pm er mwyn derbyn briff.

Bydd gwesteion yn eistedd o 6.30pm yn barod ar gyfer y seremoni i ddechrau am 7pm.

Rhowch wybod i ni am eich anghenion hygyrchedd chi a’ch gwesteion. Gallwn sicrhau bod seddi priodol ar gael yn y derbyniad â diodydd ac yn ystod y seremoni.

Mae rampiau a lifftiau ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn.