Prentisiaeth Plymwaith a Gwresogi (L3)
Trosolwg
Mae hon yn brentisiaeth uwch dros ddwy flynedd fydd yn rhoi’r wybodaeth berthnasol i chi o’r diwydiant adeiladu.
Byddwch hefyd yn dysgu, trwy hyfforddiant theori ac ymarferol, y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch sy’n rheoli prosesau plymwaith, gwresogi a nwy.
Diweddarwyd Hydref 2021
Gwybodaeth allweddol
NVQ Diploma Lefel 2 mewn Plymwaith a Gwresogi
Cyflogaeth yn y diwydiant plymwaith, gwresogi a nwy neu ynni adnewyddadwy.
Rhaid i chi basio asesiad ar-lein a chyfweliad hefyd.
Byddwch yn treulio un diwrnod (neu ddwy noson) yn y Coleg a phedwar diwrnod yn y gweithle. Mae asesiadau parhaus ac arholiadau.