Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn rhoi sgiliau ar lefel broffesiynol i chi wrth gymhwyso technegau gwaith coed safle.
Byddwch yn dysgu am amrywiol elfennau coed adeileddol gan gynnwys distiau, toeau, mynedfeydd ac adeiladau fframwaith coed neu weithgynhyrchu drysau, ffenestri a grisiau.
Tra byddwch yn y gwaith bydd rhaid i chi gasglu tystiolaeth o allu ar gyfer eich cymhwyster NVQ.
Diweddarwyd Rhagfyr 2019
Gofynion Mynediad
Bydd mynediad yn seiliedig ar gyfuniad o raddau pasio ar lefel TGAU, profiad gwaith blaenorol, cyflawniad ar gwrs dilyniant perthnasol a chanlyniadau asesiad ar-lein byddwn yn trafod hyn yn y cyfweliad. Byddai gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Unedau gorfodol / unedau dewisol:
- Cydymffurfio â diogelwch cyffredinol yn y gweithle
- Cydymffurfio ag arferion gweithio effeithlon yn y gweithle
- Symud a thrin adnoddau yn y gweithle
- Gosod cydrannau cam cyntaf yn y gweithle
- Gosod cydrannau ail-gam yn y gweithle
- Codi cydrannau sgerbwd adeileddol yn y gweithle
- Cynnal a chadw gwaith coed anadeileddol yn y gweithle
- Paratoi a defnyddio llifiau crwn yn y gweithle
Sgiliau hanfodol:
- Cymhwyso Rhif Lefel 1
- Cyfathrebu Lefel 1
- Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
Cyfleoedd Dilyniant
Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Coed Safle. Ar ôl ennill y cymhwyster hwn a gydnabyddir ym myd diwydiant byddwch yn gallu symud ymlaen i amrywiaeth o feysydd gwahanol yn y sector adeiladu a gallech symud ymlaen i fod yn rheolwr safle.
Bydd y cwrs yn rhoi’r sgiliau a’r cymhwyster i chi symud ymlaen i addysg uwch mewn pynciau cysylltiedig neu rolau rheoli yn y diwydiant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd prentisiaid yn cael mentor hyfforddi a fydd yn ymweld â nhw yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn hapus gyda’u cynnydd a’u bod ar y trywydd iawn i gyflawni.
Bydd yn cymryd rhwng 12 - 24 mis i gwblhau’r fframwaith prentisiaeth, yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.