Skip to main content

Prentisiaeth Sylfaen Plymwaith a Gwresogi (L2)

Prentisiaeth
Lefel 2
Diploma
Tycoch
two years
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r brentisiaeth hon yn cwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant plymwaith a gwresogi domestig. Mae meysydd astudio’n cynnwys:

  • Iechyd a diogelwch
  • Systemau dŵr poeth ac oer domestig
  • Systemau gwres canolog
  • Systemau carthffosiaeth
  • Technolegau amgylcheddol
  • Diogelwch nwy.

Diweddarwyd Rhagfyr 2019

Gwybodaeth allweddol

Cyfuniad o raddau pasio ar lefel TGAU, cyflawniad ar gwrs dilyniant perthnasol a chanlyniadau asesiad ar-lein. Byddai gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol. Rhaid i chi fod yn gyflogedig mewn rôl addas yn y diwydiant.

Byddwch yn treulio un diwrnod (neu ddwy noson) yn y Coleg a phedwar diwrnod yn y gweithle. Mae asesiadau parhaus ac arholiadau.