Gradd Sylfaen Ymarfer Datblygiad Plentyndod (Cwrs gyda’r hwyr)
Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk
Trosolwg
Corff llywodraethu: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Bydd y cwrs hwn yn destun ail-ddilysu.
Mae’r ffordd y mae plant yn datblygu, meithrin perthnasoedd a gwneud synnwyr o’r byd yn cael ei siapio gan ofalwyr, teulu, diwylliant, iaith, amgylchedd a phrofiad, yn gydamserol yn amlach na pheidio. Mae’r Radd Sylfaen hon yn cynnig gwybodaeth broffesiynol i ddysgwyr fel y gallant ddeall y dylanwadau hyn ac ymateb iddynt mewn modd hyderus.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn rolau amser llawn o fewn y sector gofal plant, gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae hefyd yn addas ar gyfer cynorthwywyr dysgu (CD), cynorthwywyr cymorth dysgu (CCD) a staff blynyddoedd cynnar, ac oherwydd ein bod yn cynnig y cwrs gyda’r nos, byddwch yn cael cyfle i astudio ochr yn ochr â’ch swydd, gan gymhwyso’r wybodaeth rydych chi’n ei ddysgu o fen eich rôl.
Mae’r rhaglen yn cwmpasu testunau eang iawn mewn perthynas ag astudiaethau plentyndod: theori datblygiad plant, diogelu, iechyd a lles, cynhwysiant ac ymarferoldebau arwain tîm. Byddwch yn cael eich addysgu mewn grŵp bach, rhyngweithiol a chefnogol dan arweiniad gweithwyr proffesiynol a phrofiadol o fewn y sector gofal plant, a byddwch hefyd yn elwa o gymorth ychwanegol mewn perthynas â sgiliau astudio.
Mae’r cwrs yn cyfuno gwaith theori ag ymarfer yn y byd go iawn, ac mae’n ffordd o ddatblygu sgiliau a gwybodaeth gyfredol y mae cyflogwyr yn y sector addysg yn chwilio amdano. Rydyn ni’n cynnig cyfle i ddysgu mewn grwpiau bach a chefnogol, sy’n rhoi cyfle i chi fagu hyder fel y gallwch gyfrannu, rhannu profiadau a dysgu’r arferion oddi wrth gydweithwyr a thiwtoriaid. Mae hyblygrwydd y rhaglen yn eich galluogi i gydbwyso gwaith amser llawn ag astudiaethau academaidd, ac mae’r cymorth ychwanegol sydd ar gael, boed yn addysgol neu yn gymorth bugeiliol, yn sicrhau nad yw myfyrwyr yn teimlo’n unig ar unrhyw adeg ar eu taith. Yn ogystal, bydd myfyrwyr cymwys yn cael cyfle i dderbyn bwrsari gwerth £1000.
"Wrth gynnig y cwrs hwn, rydw i wedi gweld dilyniant gyrfa go iawn, gyda myfyrwyr yn sicrhau dyrchafiadau a chyfleoedd newydd o ganlyniad i natur ymarferol y rhaglen. Mae’r llwybr dilyniant clir i astudio graddau ychwanegol, hyd yn oed TAR, yn agor y drws i ddatblygiad gyrfa hirdymor.” - Katie Thomas, Arweinydd y Rhaglen
“Wnes i wir fwynhau mynd yn ôl i astudio ar ôl cael fy mhlant. Roedd y profiad cyfan yn fuddiol, a wnes i fagu hyder yn fy hun o ganlyniad. Roedd y tiwtoriaid yn rhagorol o ystyried yr holl gymorth wnaethon nhw gynnig ar hyd y ffordd a’u hanogaeth pan oedd pethau’n anodd. Roedd y cwrs yn ddiddorol ac yn ysbrydoledig a dwi mor falch i mi gofrestru.” -Joann Hughes, Myfyriwr.
Mae’r cwrs L4/5 yn gyfystyr â dwy flynedd o gwrs BA. Os ydych chi am astudio ymhellach byddwch yn symud ymlaen i flwyddyn olaf cwrs gradd anrhydedd mewn Addysg Gynhwysol, Addysg Blynyddoedd Cynnar neu Waith Ieuenctid / Gofal.
Cod UCAS: 5G12
Gwybodaeth allweddol
Cymhwyster Lefel 3 cysylltiedig gyda sgiliau llythrennedd a rhifedd da, yn ddelfrydol gyda gradd C neu gyfwerth mewn TGAU Saesneg a Mathemateg.
Yn ystod y cwrs, bydd angen i chi gwblhau 155 awr ar leoliad (h.y. gweithio gyda phlant neu bobl ifanc 0-18 oed mewn ysgol, meithrinfa, ysgolion cyfun neu mewn amgylchedd addysg bellach, gofal tymhorol neu dechrau’n deg). Byddwch hefyd yn cwblhau 45 awr o oriau dysgu.
Addysgir y cwrs dros ddwy flynedd academaidd. Ym Mlwyddyn 1, byddwch yn dod i’r Coleg bob nos Fawrth (3.30pm-9pm) a bob nos Iau (3.30pm-9pm.)
Modiwlau
Blwyddyn gyntaf - Lefel 4
- sgiliau academaidd i fyfyrwyr
- damcaniaethau a datblygiad
- ymarfer seiliedig ar waith mewn gwasanaethau plant a phobl ifanc
- diogelu plant a phobl ifanc
- iechyd a lles plant a phobl ifanc
- gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd: egwyddorion.
Ail flwyddyn - Lefel 5
- amlieithrwydd, aml-feddwl
- plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol: cynhwysiant
- ymarfer seiliedig ar waith uwch mewn gwasanaethau plant a phobl ifanc
- dulliau ymchwil mewn addysg a gofal
- arwain gwaith mewn gwasanaethau plant a phobl ifanc
- y cyfryngau a llythrennedd digidol.
Bydd yr asesiad yn seiliedig ar aseiniadau ysgrifenedig ac arfer a arsylwyd yn yr ystafell ddosbarth.
Ar ôl graddio, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i symud ymlaen i flwyddyn olaf y cwrs BA (Anrh.) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Costau’r cwrs
Y ffioedd dysgu yw £9,790* y flwyddyn.
Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 y flwyddyn tuag at gyrsiau AU amser llawn sy’n dechrau ym mis Medi 2020 (mae hyn yn dibynnu ar ddilyniant boddhaol ar y cwrs).
I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.
Ffioedd ychwanegol
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn, h.y.:
- Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
- Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio.
- £49.50 am wiriad DBS ar gyfer yr elfennau lleoliad o’r cwrs.
Achredu Dysgu Blaenorol (APL)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS.
Rydym yn awyddus i ystyried ceisiadau yn seiliedig ar gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol. Os ydych yn sylweddoli, adeg gwneud cais, eich bod wedi cwblhau rhan o’r dysgu mewn sefydlaid arall ac mae gennych ardystiad ar gyfer y dysgu hwn rhowch wybod i’r Swyddfa Dderbyn.
*Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan PCDDS i gael rhagor o wybodaeth.
