Skip to main content

Deiliaid Trwydded Bersonol (Highfield) Lefel 2 - Dyfarniad

GCS Training
Lefel 2
Highfield
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bwriedir y cymhwyster hwn i’r rhai sy’n gweithio, neu’n paratoi i weithio, mewn unrhyw ddiwydiant sy’n ymwneud ag adwerthu alcohol. Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gwerthu neu awdurdodi gwerthu alcohol drwy adwerthu ar safle trwyddedig feddu ar drwydded bersonol.

Bydd dysgwyr sy’n ennill y cymhwyster hwn yn deall prif ofynion Deddf Trwyddedu 2003, sef pwysigrwydd hyrwyddo’r amcan trwyddedu a chyfrifoldebau cyfreithiol deiliad trwydded bersonol.

Gwybodaeth allweddol

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu mewn un diwrnod, mewn lleoliad a fydd yn cael ei gadarnhau pan fyddwch yn cadw lle, a bydd yn cael ei asesu trwy arholiad amlddewis.

Unedau

Mae’r testunau astudio’n cynnwys:

  • Natur, pwrpas a chyfnod dilysrwydd trwydded bersonol
  • Y broses ymgeisio a dyletswyddau cyfreithiol wrth wneud cais am drwydded bersonol
  • Dyletswyddau cyfreithiol deiliad trwydded bersonol
  • Rolau, cyfrifoldebau a swyddogaethau awdurdodau trwyddedu
  • Natur a chryfder alcohol a’r effaith ar y corff
  • Y gyfraith mewn perthynas â thrwyddedau mangreoedd

Os oes gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol, bydd angen o leiaf chwe wythnos o rybudd arnom i roi’r prosesau gofynnol ar waith.

Os byddwch yn cadw lle o fewn y cyfnod hwn o chwe wythnos a bod angen cymorth ychwanegol arnoch, dylech ystyried newid i ddyddiad diweddarach neu rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cadw lle.