Skip to main content

Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 3 (CIWM) - Diploma

GCS Training
Lefel 3
Llys Jiwbilî
TBC
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn addas i’r rhai mewn rolau arweinydd tîm a goruchwylio, sydd yn weithwyr profiadol sydd am gael tystiolaeth o’u cymhwysedd.

Asesir y cymhwyster yn yr amgylchedd gwaith, ac mae’n gofyn i’r dysgwr ddangos bod ganddo’r wybodaeth a’r sgiliau gofynnol i reoli cyfleuster rheoli gwastraff. 

Gwybodaeth allweddol

Bydd aseswr yn ymweld â gweithle’r dysgwr i arsylwi ei waith ‘yn y swydd’ bob pedair i chwe wythnos. Bydd yr ymweliadau yn digwydd ar sail un-i-un i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr. Bydd aseswyr yn gosod tasgau, darparu cymorth a’ch arwain trwy’r cymhwyster.

Unedau gorfodol

  • Gosod amcanion a darparu cymorth ar gyfer aelodau tîm
  • Cynllunio, dyrannu a monitro gwaith tîm
  • Cynnal asesiad risg iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • Datblygu a gweithredu cynllun asesu risg yn eich maes cyfdrifoldeb eich hun
  • Hyrwyddo cynaliadwyedd ac arferion da amgylcheddol yn y diwydiant ailgylchu
  • Datblygu perfformiad personol

Unedau dewisol

Rhaid i ymgeiswyr ddewis y llwybr cyffredinol neu’r llwybr ailddefnyddio.

Wrth i ddysgwyr symud trwy’r cymhwyster, byddan nhw’n adeiladu e-bortffolio o dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol o’r gweithgareddau ymarferol a wnaed yn y gweithle i ddangos gwybodaeth a chymhwysedd. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys:

  • Cwestiynau ac atebion
  • Arsylwadau
  • Tystebau
  • Tystiolaeth gweithle
  • Astudiaethau achos
  • Llyfrau gwaith
  • Trafodaeth broffesiynol