Skip to main content

Gweithrediadau Logisteg Lefel 3 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
QCF
Llys Jiwbilî
12 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bydd y cymhwyster Lefel 3 hwn yn rhoi modd i ddysgwyr arddangos a chydnabod eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth i ddangos eu bod yn gallu gweithio mewn amgylchedd logisteg. Rhaid bod ymgeiswyr yn gweithio mewn amgylchedd logisteg a’u bod yn awyddus i symud ymlaen i rolau goruchwylio, arwain tîm a rheoli.

Ar gyfer cymhwyster Lefel 3 bydd angen prawf o gymhwysedd ar draws unedau gorfodol ac opsiynol. 

Gwybodaeth allweddol

Ar gyfer cymhwyster Lefel 3 bydd angen prawf o gymhwysedd ar draws unedau gorfodol ac opsiynol. 

Addysgir y cymwysterau trwy ddysgu seiliedig ar waith, a fydd yn cynnwys sesiwn un-i-un bob 4-6 wythnos ar amser sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r cyflogwr.

Unedau gorfodol

  • Iechyd a diogelwch yn y gwaith
  • Gwneud y gorau o’r defnydd o adnoddau logisteg
  • Cyfrannu’n effeithiol at fusnes yn y sector logisteg

Unedau dewisol

  • Gwella perfformiad mewn gweithrediadau logisteg
  • Dyrannu a gwirio gwaith yn eich tîm
  • Cynnal diogelwch nwyddau peryglus
  • Goruchwylio derbyn, storio neu ddosbarthu nwyddau
  • Lleihau effaith amgylcheddol gweithrediadau logisteg
  • Trefnu i gludo nwyddau gan ddefnyddio dulliau cludo amryfal
  • Trefnu gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid
  • Cyfrannu at ddarpariaeth gwasanaeth cwsmeriaid
  • Sicrhau cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a chymdeithasol
  • Ymateb i broblemau
  • Defnyddio technoleg 

Er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cael eu hasesu yn erbyn set o feini prawf perfformio a gwybodaeth sy’n deillio o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol i’r rhai sy’n gweithio mewn amgylchedd logisteg.

Wrth i ddysgwyr symud trwy’r cymhwyster, byddan nhw’n creu e-bortffolio o’r dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol o’r gweithgaredd ymarferol a wneir yn y gweithle er mwyn arddangos gwybodaeth a chymhwysedd.

Mae’r dulliau asesu yn cynnwys:

  • Cwestiynau ac ateb
  • Arsylwadau
  • Tystebau
  • Tystiolaeth seiliedig ar waith
  • Astudiaethau achos
  • Trafodaeth broffesiynol