Skip to main content

Profi Dyfeisiau Cludadwy Lefel 3 – Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
C&G
Tycoch
Tri diwrnod
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwriedir y cwrs Profi Dyfeisiau Cludadwy i’r holl bersonél sy’n gobeithio gweithio yn y sector hwn, neu’r rhai y mae angen y cymhwyster hwn arnynt er mwyn cyflawni eu gweithgareddau gwaith o ddydd i ddydd. 

Mae’r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o’r gwaith ymarferol a’r gwaith theori o arolygu a phrofi offer trydanol mewn swydd, a gyfeirir ato yn gyffredin fel profion PAT. Bydd dysgwyr yn datblygu ac yn ymarfer y sgiliau sydd eu hangen i arolygu a phrofi offer trydanol yn unol â’r argraffiad diweddaraf o’r Cod Ymarfer ar gyfer arolygu a phrofi offer trydanol mewn swydd.

Gwybodaeth allweddol

Disgwylir bod dysgwyr yn meddu ar gymhwyster crefft perthnasol a/neu fod â gwybodaeth weithredol o’r diwydiant trydanol. Caiff pob cais ei ystyried yn ôl teilyngdod unigol; fodd bynnag mae’n bosibl na fydd angen cymwysterau ffurfiol, yn dibynnu ar brofiad.

Sylwch – efallai y bydd angen cyfweliad ond mae hyn yn dibynnu ar eich sgiliau a’ch cymhwyster.
Bydd angen y canlynol ar ymgeiswyr – copi o The Code of Practice for In-service Inspection and Testing (pumed argraffiad), cyfrifiannell, pen a phapur. Ni ellir defnyddio ffôn symudol fel cyfrifiannell. 

Addysgir y cwrs dros dri diwrnod, ac mae’n cynnwys gwaith ymarferol a gwaith theori yn yr ystafell ddosbarth, wedi’i ddilyn gan arholiad llyfr agored ac aseiniad ymarferol.

Ffi’r cwrs yw £250, dim TAW i’w thalu.