Skip to main content

Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) Lefel 2 - Dyfarniad

GCS Training
Lefel 2
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr er mwyn adnabod y risgiau cysylltiedig â sylweddau peryglus a sut i’w rheoli.

Fe’i bwriedir ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae dod i gyswllt â sylweddau peryglus yn debygol. Mae hyn yn cynnwys gweithleoedd fel gweithgynhyrchu, glanhau, gofal iechyd, cludiant, cyfleustodau ac amgylcheddau swyddfa.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd dysgwyr yn:

  • Deall egwyddorion sylweddau peryglus yn y gweithle
  • Deall sut y gall sylweddau peryglus achosi peryglon a risgiau i iechyd yn y gweithle
  • Deall sut mae asesiadau risg yn cyfrannu at y defnydd diogel o sylweddau peryglus yn y gweithle
  • Deall y rhagofalon a’r gweithdrefnau angenrheidiol i sicrhau bod y risgiau cysylltiedig â sylweddau peryglus yn cael eu rheoli’n gywir

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o iechyd a diogelwch. 

Asesir y cymhwyster trwy asesiad amlddewis 15 cwestiwn.
Bydd dysgwyr llwyddiannus yn derbyn tystysgrif Dyfarniad Highfield Lefel 2 mewn Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd.
Rhaid i chi ddod â dull adnabod ar ffurf ffotograff gyda chi i’r cwrs a’r asesiad.