Skip to main content

Rheoli Cyfleusterau Lefel 5 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 5
Llys Jiwbilî
24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae Rheoli Cyfleusterau yn addas ar gyfer amrywiaeth eang o ddysgwyr, o weithwyr newydd sy’n gobeithio ennill dealltwriaeth o reoli cyfleusterau a’r sector, i staff profiadol sydd am gael gwybodaeth ddyfnach o’r proffesiwn er mwyn symud ymlaen i rolau rheoli neu uwch.

Mae prentisiaeth Lefel 5 ar gyfer rheolwyr canol neu uwch-reolwyr, neu’r rhai sy’n gobeithio profi eu cymhwysedd a datblygu i’r lefel reoli hon. 

Gellir defnyddio’r prentisiaethau i recriwtio neu uwchsgilio staff presennol.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr dynodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Mae dull addysgu’r brentisiaeth yn hyblyg, a gellir ei deilwra i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr, gan gynnwys dull addysgu wyneb yn wyneb a rhithwir, neu ddull cyfunol.

Unedau gorfodol

  • Datblygiadau a thueddiadau Rheoli Cyfleusterau
  • Rheoli pobl ym maes Rheoli Cyfleusterau
  • Strategaeth sefydliadol a Rheoli Cyfleusterau 
  • Rheoli cyllid ym maes Rheoli Cyfleusterau
  • Rheoli risg ym maes Rheoli Cyfleusterau
  • Arferion myfyriol Rheoli Cyfleusterau

Unedau dewisol

I gwblhau’r brentisiaeth hon yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd ag amrywiaeth o asesiadau. Bydd yr asesiadau yn dasgau seiliedig ar waith gan roi modd i’r dysgwr gymhwyso’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau a ddatblygwyd yn uniongyrchol i’w rôl. 

I gwblhau’r brentisiaeth hon yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd ag amrywiaeth o asesiadau. Bydd yr asesiadau yn dasgau seiliedig ar waith gan roi modd i’r dysgwr gymhwyso’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau a ddatblygwyd yn uniongyrchol i’w rôl. 

Dan y fframwaith prentisiaeth, bydd disgwyl i ddysgwyr gwblhau’r canlynol hefyd:

  • Sgiliau Hanfodol – Cymhwyso Rhif
  • Sgiliau Hanfodol – Cyfathrebu
  • Sgiliau Hanfodol – Llythrennedd Digidol