Skip to main content

Academi Addysgu

Rhan-amser
Lefel 4
AGORED
Tycoch
Chwe mis
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae Academi Addysgu Coleg Gŵyr Abertawe yn gyfle datblygu gwych i’r rhai sy’n ystyried gyrfa mewn Addysg Bellach.

"Rydyn ni’n awyddus iawn i ddatblygu ein talentau ein hunain trwy ein hacademi addysgu bwrpasol, sydd wedi cael ei chynllunio’n ofalus i drwytho darpar staff darlithio yn eu pwnc,” meddai Deon y Gyfadran Lucy Hartnoll. “Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dilyn rhaglen fewnol wedi’i haddysgu gan ein staff eithriadol ac sy’n seiliedig ar y rhinweddau craidd sydd eu hangen i gyflawni ein darpariaeth Safon Uwch a galwedigaethol yn llwyddiannus."

Bydd cyfranogwyr yr Academi Addysgu yn cael eu mentora’n fanwl gan arbenigwyr pwnc drwy gydol y broses, lle byddan nhw’n cwblhau unedau Agored Lefel 4 yn ogystal â gwneud sesiwn tiwtorial am awr yr wythnos, arsylwi addysgu yn y maes o’u dewis a hyfforddiant Bagloriaeth Cymru.

4.07.23

Gwybodaeth allweddol

Dyma gyfle datblygu gwych i rywun sydd wedi graddio’n ddiweddar, rhywun sy’n cwblhau cymhwyster ôl-raddedig, neu rywun sydd wedi gweithio ym myd diwydiant ac sydd am gael pluen arall yn ei het.

Cewch fynediad i’r cwrs trwy wneud cais a chyfweliad.  

Trwy gymysgedd o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial ac ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, bydd ymgeiswyr yn cwblhau dwy uned Agored Lefel 4 yn ogystal ag arsylwi addysgu yn y maes o’u dewis a gwneud hyfforddiant Bagloriaeth Cymru.
 

Pan fydd rhaglen chwe mis yr Academi Addysgu yn dod i ben, gallai dysgwyr fod yn gymwys wedyn i symud ymlaen i gymhwyster PgCE.
Bydd cwblhau’r Academi Addysgu yn paratoi’r dysgwyr yn dda ar gyfer y dyfodol. Bydd yn rhywbeth teilwng i’w roi ar eu CV a byddan nhw eisoes ar radar y Coleg pan fydd swyddi gwag darlithio yn codi.