Skip to main content

Coginio gan Ddefnyddio Cynnyrch Cymrei

Rhan-amser
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Bob wythnos, meistrolwch y grefft o baratoi a choginio dwy rysáit, gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig lleol.

Byddwch yn paratoi amrywiaeth o ganapés, cyrsiau cyntaf, prif gyrsiau a phwdinau. Byddwch hefyd yn dysgu i addasu ryseitiau i gynnwys blasau a chynhwysion gwahanol.  

  • Sesiwn 1 – Cyflwyniad ac arddangosiad coginio
  • Sesiynau 2-10 – Sesiynau ymarferol, gyda gwerthusiad cwrs.

Gwybodaeth allweddol

Efallai eich bod yn gweithio yn y diwydiant ac yn teimlo bod angen gwella’ch sgiliau.

18+ oed  

Gan eich bod yn gweithio ym maes cynhyrchu bwyd:  

  • Dim gemwaith na thlysau
  • Dim farnais ewinedd nac ewinedd jel 
  • Caniateir ychydig iawn o golur.

Arddangosiadau gan y darlithydd, gwaith ymarferol.

Ni fydd asesiad ffurfiol.

Drwy gydol y sesiynau, cewch adborth geiriol, ynghyd ag awgrymiadau a chymhorthion defnyddiol.

Byddwn ni’n darparu ryseitiau, ac rydyn ni’n eich annog i gadw’r rhain mewn portffolio bach.

Gallech symud ymlaen i gwrs amser llawn. 

Gallech ddewis dilyn cwrs byr, anachrededig arall.  

Gan eich bod yn paratoi bwyd, mewn cegin fasnachol, rhaid i fyfyrwyr ddarparu’r canlynol:  

  • Het a gymeradwyir gan y diwydiant (rhwyd wallt o leiaf) 
  • Cot wen (ffedog o leiaf) 
  • Esgidiau caeedig di-lithr. 

Bydd cynhwysion yn costio tua £10 yr wythnos. 

Off