Gwyddoniaeth Gymhwysol HNC
Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion sy’n gweithio yn y diwydiannau cemegol a chysylltiedig i lwyddo mewn cyflogaeth. Bydd dysgwyr yn datblygu ystod o sgiliau, technegau a phriodoleddau sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith.
Gwybodaeth allweddol
Un o’r canlynol:
- Diploma Mynediad i AU – Pas
- Safon Uwch – DD
- BTEC Diploma Estynedig L3 – PPP
- BTEC Diploma L3 90-Credyd – MM.
Gwyddorau Cymhwysol (Llwybr Cemeg)
Blwyddyn gyntaf
- Uned 1: Hanfodion Technegau Labordy (Gorfodol)
- Uned 2: Dulliau Gweithredu a Thechnegau Trin Data Gwyddonol (Gorfodol)
- Uned 7: Cemeg Anorganig (Gorfodol)
- Uned 8: Cemeg Organig (Gorfodol).
Ail flwyddyn
- Uned 3: Rheoleiddio ac Ansawdd yn y Gwyddorau Cymhwysol (gosodir gan Pearson)
- Uned 9: Cemeg Ffisegol
- Uned 64: Ymchwiliad Seiliedig ar Waith
- Uned 73: Llygryddion Amgylcheddol a Phrofion Dŵr.
Dilyniant i radd mewn cemeg gymhwysol neu faes cysylltiedig.
Costau’r cwrs
£1,200* y flwyddyn, amser llawn.
I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.
Ffioedd ychwanegol
- Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
- Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio.
Achredu Dysgu Blaenorol (APL)
Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol.
* Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol.