Prentisiaeth Sylfaen Iechyd a Gofal Cymdeithasol (L2)
Trosolwg
Mae’r cwrs 15 mis hwn yn darparu dealltwriaeth o iechyd a gofal cymdeithasol a bydd yn rhoi modd i chi ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:
- Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth
- Cyfathrebu a chymhwyso rhif mewn lleoliadau gofal
- Iechyd a lles
Diweddarwyd Rhagfyr 2019
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Cyflogaeth yn y sector am o leiaf chwe mis. Bydd lefel y dysgu yn dibynnu ar eich profiadau a’ch cyfrifoldebau sydd gennych yn eich swydd.
Dull Addysgu’r Cwrs
Byddwch yn dod i’r Coleg bob pythefnos drwy gydol y rhaglen (dau ddiwrnod y mis) gydag asesiadau parhaus yn y gweithle.
Cyfleoedd Dilyniant
Astudiaethau pellach yn y brifysgol mewn pwnc cysylltiedig megis nyrsio. Dilyniant i gyrsiau lefel uwch megis y Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu’r Fframwaith Credydau a Chymwysterau (FfCCh).
Mae dilyniant i’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Prentisiaeth) yn dibynnu ar gymeradwyaeth y cyflogwr gan fod rhaid i’r dysgwr fod yn gyflogedig mewn swydd uwch.