Trosolwg o’r Cwrs
Nid yw’n gwneud gwahaniaeth a ydych yn theistiad (yn credu yn Nuw), yn anffyddiwr (ddim yn credu yn Nuw) neu’n agnostig (heb benderfynu am Dduw), gallai Astudiaethau Crefyddol gynnig opsiwn diddorol a bywiog i chi ar lefel UG a Safon Uwch gyda digon o gyfleoedd ar gyfer dadl grefyddol, foesegol ac athronyddol sy’n ysgogi’r meddwl.
Bydd ymgeiswyr UG yn cwblhau dau opsiwn:
Uned 1 – Cyflwyniad i Grefyddau Dwyreiniol: Bwdhaeth
- Bywyd y Bwdha
- Cysyniadau Bwdhaidd allweddol (carma, nirfana)
- Ffordd o fyw Fwdhaidd (bywydau mynachod, lleianod a’r gymuned leyg)
- Arferion Bwdhaidd (addoli a myfyrio)
Uned 2 – Cyflwyniad i Grefydd a Moeseg ac Athroniaeth Crefydd
- Damcaniaeth foesegol ‘deddf naturiol’ Aquinas
- Iwtilitariaeth (Bentham a Mill)
- Moeseg sefyllfa Fletcher sy’n seiliedig ar gariad
- Moeseg gymhwysol
- Dadleuon anwythol dros fodolaeth Duw
- Dadleuon diddwythol dros fodolaeth Duw
- Problem drygioni a dioddefaint
- Profiad crefyddol
Mae tair uned bellach ar Safon Uwch:
- Uned 3 – Crefydd a Moeseg
- Uned 4 – Astudiaethau mewn Bwdhaeth
- Uned 5 – Athroniaeth Crefydd
Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r syniadau hyn ond hefyd eu sgiliau gwerthuso.
Gwiriwyd Tachwedd 2019
Gofynion Mynediad
Mae gradd B mewn TGAU Saesneg Iaith a Llenyddiaeth yn ddymunol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Cyflwynir y cwrs trwy bedair sesiwn sy’n gwneud cyfanswm o 4.5 awr yr wythnos. Addysgir pob sesiwn drwy ddarlithoedd gyda digon o gyfleoedd i fyfyrwyr ryngweithio â’i gilydd.
Cynhelir arholiadau ar gyfer UG a Safon Uwch yn yr haf. Ym mhob arholiad, rhaid ateb dau gwestiwn traethawd strwythuredig allan o ddewis o bedwar.
Bydd myfyrwyr yn cael cwestiynau traethawd/arholiad ymarfer o leiaf bob tair wythnos gydag adborth adeiladol ar sut i wella’r rhain ar ôl eu dychwelyd.
Cyfleoedd Dilyniant
Gall gradd mewn Astudiaethau Crefyddol arwain at amrywiaeth o yrfaoedd fel addysgu, gwaith cymdeithasol, newyddiaduraeth, nyrsio, cysylltiadau cyhoeddus a gwaith ieuenctid. Mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs wedi mynd ymlaen i brifysgolion amrywiol gan gynnwys Abertawe, Caerdydd, Bryste, Llundain, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caergrawnt a Bath Spa.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd cyfleoedd i ymweld â Chanolfan Fwdhaidd a bydd amrywiaeth o siaradwyr gwadd yn cael eu gwahodd i’r Coleg. Y llynedd, roedd y Colkeg wedi cynnal cynhadledd ryng-ffydd lwyddiannus ar fywyd ar ôl marwolaeth.
Mae Cymdeithas Astudiaethau Crefyddol bob pythefnos wedi cael ei sefydlu gan y myfyrwyr ar gyfer y myfyrwyr. Mae hyn yn rhoi cyfle i drafod materion o ddiddordeb cyffredinol a welir yn aml yn y cyfryngau yn ddiweddar nad ydynt efallai’n cael sylw yn y maes llafur.
Mae gennym gysylltiadau â sawl prifysgol gan gynnwys Caerdydd, Y Drindod Dewi Sant a Bath Spa, sy’n rhoi modd i fyfyrwyr fynd ar ymweliadau astudio â chynadleddau a seminarau.