Skip to main content

Safon Uwch Celfyddyd Gain

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Archwiliwch amrywiaeth o gelf, cyfryngau, prosesau a thechnegau. Astudir dulliau traddodiadol yn ogystal â chyfryngau newydd. Archwilir y defnydd o luniadu at wahanol ddibenion, gan ddefnyddio gwahanol ddulliau. 

Gweithio mewn un neu fwy o feysydd celfyddyd gain megis lluniadu a pheintio, cyfryngau cymysg (collage), gwneud printiau a ffotograffiaeth, gosodiadau/safle penodol neu fideo. Byddwch yn defnyddio ffynonellau perthnasol yn ymwneud ag amrywiaeth o gelf hanesyddol a chyfoes, gan gynnwys enghreifftiau Ewropeaidd a’r tu hwnt i Ewrop. 

Bydd rhai myfyrwyr yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau celf cenedlaethol i gael profiad o arddangos eu gwaith.  
 
Amcanion y cwrs: 

  • Datblygu syniadau o ymchwil i gelfyddyd y gorffennol a’r presennol 
  • Dangos dealltwriaeth o ymchwil trwy waith a gynhyrchwyd a nodiadau ysgrifenedig 
  • Archwilio ystod eang o ddeunyddiau, technegau a phrosesau 
  • Mireinio syniadau a dangos gwelliant yn ystod y broses ddatblygu 
  • Cofnodi syniadau, cynlluniau a bwriadau 
  • Myfyrio’n feirniadol ar y gwaith a’r cynnydd 
  • Cyflwyno corff cydlynol o waith sy’n arddangos sgiliau a chysylltiadau ag ymchwil a datblygiad.

Canlyniadau’r cwrs: 

  • Cyflwyno llyfr braslunio o waith ymchwil a datblygu sy’n cynnwys arbrofi â chyfryngau, technegau a phrosesau 
  • Ymchwilio i artistiaid a symudiadau celf priodol 
  • Dangos sut mae gwaith artistiaid eraill wedi dylanwadu ar ddarnau terfynol 
  • Dangos tystiolaeth o ddysgu trwy welliannau yn y gwaith a gynhyrchwyd a gweithredu canlyniadau sydd wedi’u cynllunio’n dda. 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Gan gynnwys Mathemateg, Saesneg laith, a chwrs celf (e.e., Celfyddyd Gain a/neu Gelf a Dylunio a/neu Gyfathrebu Graffig a/neu Decstilau a/neu Ffotograffiaeth) NEU – portffolio o waith celf ar gyfer cyfweliad.

Asesu: 

  • Asesu parhaus (anffurfiol a ffurfiol) trwy gyfrwng trafodaethau dosbarth a thasgau gosod
  • Asesiadau ffurfiol ar ddiwedd pob uned
  • Testun gosod y Bwrdd Arholi yn Uned 3 (U2) gyda datblygiad darn terfynol 15 awr a thraethawd darluniadol 1000 – 3000 o eiriau ar thema a ddewiswyd gan y myfyriwr. 

Meini Prawf Graddio: 

  • UG Uned 1: 40% 
  • U2 Uned 2: 36% 
  • U2 Uned 3: 44% 

  • Yn aros yn y Coleg, gallech symud ymlaen i’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn Llwyn y Bryn 
  • Mynediad uniongyrchol i amrywiaeth o gyrsiau gradd celf a dylunio.

Explore in VR