Cwrs Sylfaen mewn Gwasanaethau Adeiladu ac Adeiladau

Amser llawn
Lefel 2
Tycoch, Llys Jiwbilî
One year
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r Cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn rhoi cyflwyniad eang i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Fe’i bwriedir ar gyfer dysgwyr sy’n mentro i addysg bellach ac sydd heb gael profiad o’r amgylchedd adeiledig eto.

Ar y Cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) rhaid i ddysgwyr wneud chwe uned craidd orfodol, unedau seiliedig ar theori gan gynnwys:

  • Cyflwyniad i’r amgylchedd adeiledig
  • ​​​​Cyflwyniad i’r crefftau yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Cyflwyniad i gylch bywyd yr amgylchedd adeiledig, cyflogadwyedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Amddiffyn iechyd, diogelwch a’r amgylchedd wrth weithio yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Cyflwyniad i dechnolegau datblygol yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig

...a dwy uned opsiynol sy’n benodol i’r grefft, naill ai

Opsiwn 1
Galwedigaethau Coed a Galwedigaethau Gorffennu Addurniadol a Pheintio Diwydiannol

Opsiwn 2
Gweithio gyda Brics, Blociau a Cherrig, a Phlastro a Systemau Mewnol

Opsiwn 3
Plymwaith, Gwresogi ac Awyru a Gosodiadau Trydanol (Systemau ac Offer Electrodechnegol)

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Dylai myfyrwyr fod wedi cyflawni’r cymhwyster Amlsgiliau Adeiladu Lefel 1 neu gymhwyster Lefel 1 perthnasol cyn symud ymlaen i’r cwrs sylfaen. Bydd gwybodaeth a phrofiad blaenorol y myfyriwr yn cael eu trafod yn y cyfweliad.

Dull Addysgu’r Cwrs

Mae’r cwrs yn rhaglen amser llawn dros flwyddyn. Mae’r Cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn gymysgedd o asesiadau theori yn yr ystafell ddosbarth, arholiad ar-lein ac asesiad ymarferol.

Cyfleoedd Dilyniant

Bydd y cymhwyster yn rhoi gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yn ogystal â gwybodaeth a sgiliau rhagarweiniol mewn dau faes crefft o’ch dewis.

Bydd y cymhwyster yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddysgwyr symud ymlaen i astudiaethau pellach. Mae hyn yn cynnwys dilyniant i’r cymwysterau canlynol:

• Dilyniant mewn Adeiladu Lefel 2 - City & Guilds
• Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 - EAL
• Adeiladu Lefel 3 (maes crefft) - City & Guilds
• Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 (maes crefft) - EAL

 

Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!