Skip to main content

UAL Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Perfformio - Actio

Amser-llawn
Lefel 4
UAL
Gorseinon
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Corff llywodraethu: Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL)

UAL Logo

Bwriedir y cwrs Diploma Proffesiynol mewn Perfformio (Y Cwmni Actio) i fyfyrwyr 18+ oed sydd am astudio actio mewn coleg drama arbenigol, neu ddrama yn y brifysgol. 

Amcanion y cwrs:

  • Datblygu sgiliau perfformio priodol ar gyfer mynediad i’r diwydiannau creadigol
  • Diffinio uchelgeisiau celfyddydol a chyfleoedd dilyniant proffesiynol  
  • Datblygu ymarfer proffesiynol a chymhwyso safonau proffesiynol wrth weithio ar brosiectau creadigol  
  • Cyflawni cymhwyster Lefel 4 a gydnabyddir yn genedlaethol.

Canlyniadau’r cwrs:  

  • Trwy brosiectau perfformio ymarferol amrywiol, bydd myfyrwyr yn datblygu ymhellach ystod o sgiliau actio, llais a symud  
  • Bydd myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo i baratoi ar gyfer clyweliadau
  • Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau perfformio mewn lleoliadau proffesiynol. 

Gwybodaeth allweddol

  • Rhaglen tri chwrs Safon Uwch, gan gynnwys Drama
  • Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio (Rhagoriaeth neu Deilyngdod)
  • Profiad neu gymwysterau perthnasol eraill fel y pennir gan dîm derbyn y Coleg
  • Mynediad trwy gyfweliad a chlyweliad.

Mae’r cwrs yn cynnwys tair uned orfodol:  

  • Uned un: Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol
  • Uned dau: Prosiect Perfformio Arbenigol
  • Uned tri: Prosiect Perfformio Arbenigol.

Er mwyn ennill y Diploma, rhaid i fyfyrwyr ennill gradd Pasio o leiaf.

Asesu 

Asesir y cymhwyster trwy:  

  • Dwu uned wedi’u hasesu a’u dilysu yn fewnol (Unedau 1 a 2), yn amodol ar broses sicrhau ansawdd gan UAL
  • Un uned wedi’i hasesu a’i dilysu (Uned 3), wedi’i marcio gan y ganolfan a’i chymedroli’n allanol gan UAL.

Dim ond graddau Pasio a roddir ar gyfer Uned 1 ac Uned 2. Mae’r cymhwyster cyffredinol yn cael ei raddio fel Methu, Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth yn seiliedig ar Uned 3. 

Mae cyn-fyfyrwyr y cwrs hwn wedi symud ymlaen i golegau drama o fri cenedlaethol gan gynnwys Stiwdio Ddrama Llundain, Arts Educational School Llundain, Royal Birmingham Conservatoire, Leeds Conservatoire, Ysgol Theatr Bristol Old Vic, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, East 15, LAMDA, GSA Conservatoire, LIPA and Rose Bruford. Mae rhai wedi symud ymlaen i brifysgolion fel Royal Holloway a Chaer-wysg. 

Mae rhai myfyrwyr yn symud ymlaen i waith proffesiynol ym myd theatr a theledu.

Mae perfformio mewn cynyrchiadau yn rhan o’r cwrs, ac mae gwaith yn y gorffennol wedi cynnwys “Lorca’s Women”, “Terrible is the Temptation to Do Good” (prosiect Brecht), “Blood Wedding”, “Medea”, a “Generation O” (casgliad o waith gan Gary Owen).

Mae myfyrwyr yn cael cyfle i brofi amrywiaeth o berfformiadau a chymryd rhan mewn gweithdai gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae ymweliadau â theatrau cenedlaethol a rhanbarthol yn rhan o’r cwrs hefyd.

Costau’r cwrs

Ffi’r cwrs yw £450 sy’n cynnwys gweithdai a dosbarthiadau meistr gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Hyd y cwrs

Addysgir y cwrs hwn dros un flwyddyn academaidd ar Gampws Gorseinon ond byddwch yn mynychu rhai dosbarthiadau yn Theatr y Grand Abertawe.