Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn cynnwys llawer o waith ymarferol yn y stiwdio ac ar leoliad.
Byddwch yn archwilio amrywiaeth o genres gan gynnwys hysbysebu, ffasiwn, dogfennol a theithio.
Byddwch yn astudio ar Gampws Llwyn y Bryn sydd â lle stiwdio arbenigol, ystafell ddigidol Mac bwrpasol ac ystafell dywyll ddu a gwyn sy’n gweithredu’n llawn.
Diweddarwyd Ionawr 2021
Explore this location in 3D
Gofynion Mynediad
Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU. Byddwn yn derbyn cymwysterau cyfwerth, gan gynnwys gradd Teilyngdod mewn Ffotograffiaeth (Lefel 2).
Yn amodol ar gyfweliad ac enghreifftiau o waith.
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd y cwrs yn cynnwys 19 awr o addysgu uniongyrchol yr wythnos, a fydd yn cyfuno gwersi ffurfiol, gweithdai a chyfarwyddyd sesiynau tiwtorial.
Cyfleoedd Dilyniant
Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, gradd, gradd sylfaen neu HND.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd rhaid i fyfyrwyr gael mynediad i’w DSLR eu hunain ac efallai y bydd angen iddynt brynu offer ffotograffig newydd drwy gydol y cwrs.
Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn saethiadau ffotograffig rheoliadd ar leoliad.
Bydd ffi stiwdio £75 yn ofynnol bob blwyddyn.