Gosodiadau Trydanol (Diploma L3)
Trosolwg
Ar y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn dysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector gosodiadau trydanol. Mae meysydd astudio’n cynnwys:
- Gosodiadau trydanol, canfod a chywiro namau
- Egwyddorion gwyddor drydanol
- Egwyddorion a gofynion systemau technoleg amgylcheddol
- Dylunio systemau trydanol
- Iechyd a diogelwch.
Diweddarwyd Tachwedd 2019
Gwybodaeth allweddol
Mae strwythur y cymhwyster hwn yn gyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol. Caiff y ddau eu hasesu drwy aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol ac arholiadau dewis lluosog ar-lein.
Prentisiaeth Electrodechnegol, Peirianneg (Lefel 3) neu HNC/HND mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig.