Skip to main content

Safon Uwch Hanes

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Ymgollwch ym myd hudolus hanes gyda’n cwrs Safon Uwch Hanes. Archwiliwch ddigwyddiadau hanesyddol arwyddocaol, personoliaethau, a syniadau sydd wedi llywio ein cymdeithas. Nod y cwrs hwn yw datblygu eich sgiliau meddwl beirniadol, ymchwil a dadansoddi wrth i chi ymchwilio i bynciau fel Cymru a Lloegr y Tuduriaid, yr Almaen Natsïaidd, y Rhyfel Oer, a’r Mudiad Hawliau Sifil. 

Trwy astudiaeth fanwl a thrafodaethau diddorol, byddwch yn ennill dealltwriaeth ddofn o’r gorffennol a’i ddylanwad ar y presennol. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn meddu ar yr wybodaeth a’r sgiliau i lunio dadleuon a dehongliadau cymhellol o ddigwyddiadau hanesyddol, gan eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach neu yrfaoedd mewn meysydd fel hanes, gwleidyddiaeth, y gyfraith a newyddiaduraeth.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Gan gynnwys o leiaf radd B mewn Saesneg laith neu Hanes (os cymerwyd ar lefel TGAU) 
  • Diddordeb angerddol mewn hanes ac awydd i archwilio cyd-destunau hanesyddol gwahanol.

Mae’r cwrs yn cynnig profiad dysgu difyr sy’n cyfuno hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth â gweithgareddau rhyngweithiol. Trwy ddarlithoedd, trafodaethau grŵp, ac ymchwil annibynnol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o ddigwyddiadau a themâu hanesyddol. Cynhelir asesiadau i werthuso eich cynnydd a’ch dealltwriaeth o’r pwnc, gan gynnwys aseiniadau traethawd ac arholiadau. Mae cyfleoedd hefyd i ymgysylltu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, e.e., ymweliad astudio â’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn Llundain. 

Meini Prawf Graddio: 

Bydd y meini prawf graddio yn canolbwyntio ar eich gallu i ddangos gwybodaeth hanesyddol, dehongli ffynonellau gwreiddiol a darnau eilaidd, a llunio dadleuon wedi’u strwythuro’n dda. 

Mae’r pum uned yn werth 20% yr un o’r radd U2 derfynol.  

Blwyddyn 1 – dau bapur arholiad:

  • Uned 1 (UG): Llywodraeth, Gwrthdystio a Chymdeithas yng Nghymru a Lloegr, tua 1485-1603  
  • Uned 2 (UG): Rhan 1: Weimar a’i heriau, tua 1918-1933 

Blwyddyn 2 – dau bapur arholiad ac un darn o waith cwrs:

  • Uned 3 (U2): Canrif yr Americanwyr, tua 1890-1990 
  • Uned 4 (U2): Rhan 2: Yr Almaen Natsïaidd, tua1933-1945 
  • Uned 5 (U2): Dehongliadau Hanesyddol (gwaith cwrs)

Mae cwblhau Safon Uwch Hanes yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer eich ymdrechion academaidd a phroffesiynol yn y dyfodol. Mae’r cwrs yn agor amrywiaeth o gyfleoedd dilyniant, gan gynnwys addysg uwch mewn hanes, gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol, neu ddisgyblaethau cysylltiedig. 

Mae’r sgiliau meddwl beirniadol, ymchwil a chyfathrebu a ddatblygir yn ystod y cwrs yn drosglwyddadwy iawn ac mae galw mawr amdanynt mewn amrywiol lwybrau gyrfa megis newyddiaduraeth, y gyfraith, polisi cyhoeddus, a rheoli treftadaeth.