Skip to main content

Safon Uwch Mathemateg Bellach

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Yn y cwrs Mathemateg Bellach hwn, byddwch yn ychwanegu at eich gwybodaeth Safon Uwch Mathemateg i wella eich dealltwriaeth fathemategol. 

Yn rhan Mathemateg Bur Bellach y cwrs, byddwch yn astudio rhifau cymhlyg, matricsau, fectorau, prawf trwy anwythiad mathemategol, cyfesurynnau pegynol a ffwythiannau hyperbolig. 

Yn Ystadegau Pellach byddwch yn astudio dosraniadau ystadegol pellach, hapnewidynnau a phroses Poisson, cysylltiadau rhwng newidynnau a llwyddiant ffit model, ac amcangyfrif. 

Yn olaf, bydd Mecaneg Bellach yn ymdrin â momentwm ac ysgogiad, cyfraith Hooke, ynni a phŵer, mudiant cylchol, mudiant unionlin, canol màs ac ecwilibriwm cyrff anhyblyg.

Amcanion y Cwrs: 

  • Datblygu dealltwriaeth ddofn o wahanol feysydd mathemateg bellach a sut maen nhw’n perthyn i’w gilydd
  • Parhau i ddatblygu eich sgiliau a thechnegau mathemategol, gan eich galluogi i ddatrys problemau mwy cymhleth a distrwythur
  • Gwella eich galluoedd rhesymu rhesymegol, gan ganiatáu i chi nodi rhesymu anghywir, cyffredinoli, a llunio prawf mathemategol.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg
  • Gan gynnwys A* mewn TGAU Mathemateg o’r Haen Uwch 
  • Rhaid astudio Mathemateg Bellach fel cwrs dwbl mewn cyfuniad â Safon Uwch Mathemateg.

  • Byddwn yn astudio Safon Uwch Mathemateg yn y flwyddyn gyntaf a Safon Uwch Mathemateg Bellach yn yr ail flwyddyn.
  • Naw awr o oriau darlithio yr wythnos
  • Gwaith cartref wythnosol 
  • Asesiad dosbarth bob hanner tymor 
  • UG Uned 1:  Mathemateg Bur Bellach A (1 awr 30 munud)
  • UG Uned 2:  Ystadegeau Pellach A (1 awr 30 munud)
  • UG Uned 3:  Mecaneg Bellach A (1 awr 30 munud)
  • U2 Uned 4:  Mathemateg Bur Bellach B (2 awr 30 munud)
  • U2 Uned 5:  Ystadegau Pellach A NEU U2 Uned 6:  Mecaneg Bellach B (1 awr 45 munud)

Mae Safon Uwch Mathemateg Bellach yn agor byd o gyfleoedd. Mae prifysgolion yn gwerthfawrogi’r cymhwyster hwn yn fawr, gan gynyddu eich siawns o gael eich derbyn i raglenni gradd nodedig mewn Mathemateg, Peirianneg, Ffiseg, Cyfrifiadureg, a mwy. Mae’n rhoi sgiliau datrys problemau a dadansoddol uwch i chi y mae galw amdanynt mewn gyrfaoedd fel: 

  • Peirianneg 
  • Cyllid 
  • Dadansoddi data 
  • Cryptograffeg 
  • Ymchwil wyddonol. 

Gall Safon Uwch Mathemateg Bellach arwain at gymwysterau proffesiynol hefyd fel bod yn Fathemategydd Siartredig neu’n Actiwari. 

Rhaid i chi astudio Safon Uwch Mathemateg a Safon Uwch Mathemateg Bellach gyda’i gilydd. Mae hwn yn opsiwn Safon Uwch heriol iawn a dylech ei gymryd dim ond os yw’ch cwrs Prifysgol yn nodi bod angen Mathemateg Bellach arnoch. 

Bydd angen arnoch gyfrifiannell Peirianneg Uwch/Wyddonol CASIO FX-991EX. Gellir prynu’r rhain o’r Llyfrgell ar Gampws Gorseinon. 

Rydym yn cynnig cyfleoedd i sefyll arholiadau Heriau UKMT, Sêr Mathemateg a STEP/MAT.