Skip to main content

Y Celfyddydau Perfformio – Actio (Diploma 90 Credyd L3)

Amser-llawn
Lefel 3
Diploma
Gorseinon
one year
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Addysgir y cwrs trwy amrywiaeth o unedau ymarferol a damcaniaethol a phrosiectau perfformio.

Mae cyfran fawr o’r gwaith a wneir o natur ymarferol ac yn cael ei asesu’n barhaus. Byddwch hefyd yn cael cymorth wrth baratoi ar gyfer clyweliadau ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau perfformio mewn lleoliadau proffesiynol.

Dylai myfyrwyr a dderbynnir ar y cwrs hwn anelu at wneud cais i golegau drama arbenigol neu brifysgol.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs dwys hwn yn:

  • •    datblygu ystod o sgiliau actio, llais a symud ymhellach
  • •    cael cymorth wrth baratoi ar gyfer clyweliadau
  • •    cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau perfformio mewn lleoliadau proffesiynol
  • •    gweithio gyda chyfarwyddwyr theatr proffesiynol
  • •    mynychu ystod o berfformiadau theat


Diweddarwyd Tachwedd 2019

Gwybodaeth allweddol

Tair Safon Uwch gan gynnwys Drama neu BTEC Diploma Estynedig.

Mynediad yn ôl cyfweliad a chlyweliad.

Addysgir y cwrs trwy amrywiaeth o unedau ymarferol a damcaniaethol a phrosiectau perfformio. Mae cyfran fawr o’r gwaith a wneir o natur ymarferol ac yn cael ei asesu’n barhaus. Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn.

Mynediad i golegau a phrifysgolion drama, dawns a theatr gerdd arbenigol gan gynnwys Arts Ed, Rose Bruford, LIPA, Bristol Old Vic, Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru a RADA. Gyrfaoedd mewn gwaith theatr a theledu proffesiynol.

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr brofi amrywiaeth o berfformiadau ac i gymryd rhan mewn gweithdai gyda pherfformwyr proffesiynol. Disgwylir iddynt hefyd fynychu ymweliadau theatr rheolaidd.

Mae ffioedd cwrs o £450 yn cynnwys gweithdai a dosbarthiadau meistr gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant.