Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs hwn yn eich annog i feithrin diddordeb a dealltwriaeth o’r system gyfreithiol bresennol yng Nghymru a Lloegr.
Mae meysydd astudio ym mlwyddyn un yn cynnwys:
- Y broses sifil a throseddol
- Personél cyfreithiol
- Cyflwyniad i gyfraith camwedd
Mae meysydd astudio ym mlwyddyn dau yn cynnwys:
- Cyfraith hawliau dynol
- Cyfraith droseddol
Ar y cwrs hwn byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau, dadansoddol a meddwl beirniadol cryf yn ogystal â’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. Yn yr ail flwyddyn, cewch gyfle i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Treialon Ffug y Bar a chystadlu am gyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr.
Diweddarwyd Tachwedd 2019
Gofynion Mynediad
Mae gradd B mewn TGAU Saesneg Iaith yn ofynnol.
Cyfleoedd Dilyniant
Yn y Coleg gallech symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Cyfiawnder Troseddol neu raddau prifysgol eraill yn y gyfraith, troseddeg, gwleidyddiaeth, plismona.
Mae cyfleoedd gyrfa yn cynnwys mynediad i’r proffesiynau cyfreithiol, newyddiaduraeth, plismona a’r gwasanaeth sifil.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd gofyn i fyfyrwyr brynu gwerslyfrau. Anogir myfyrwyr i gymryd rhan mewn ymweliadau addysgol hynod lwyddiannus, sy’n gofyn am gyfraniad gan fyfyrwyr, sy’n ategu’r maes llafur.
Er enghraifft, mae myfyrwyr UG wedi ymweld â’r Llysoedd Barn yn Llundain bob blwyddyn ac mae myfyrwyr Safon Uwch wedi ymweld â’r sefydliadau cyfreithiol Ewropeaidd ym Mrwsel, Lwcsembwrg a Strasbwrg.