Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn eich cyflwyno i’r diwydiant gosodiadau trydanol. Mae meysydd astudio’n cynnwys:
- Gosodiadau trydanol, gwifro a therfyniadau
- Technegau ffabrigo ar gyfer gosodiadau trydanol
- Gwyddor drydanol a thechnoleg
- Mesurau amgylcheddol a chynaliadwyedd mewn anheddau domestig
- Strwythur y diwydiant adeiladu
- Arferion gweithio diogel.
Diweddarwyd Tachwedd 2019
Explore this location in 3D
Gofynion Mynediad
Yn amodol ar gyfweliad seiliedig ar gymwysterau TGAU, cymwysterau cyfwerth a’ch teilyngdod eich hun.
Mae gradd C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol ond nid yw’n hanfodol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae strwythur y cymhwyster hwn yn gyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol. Caiff y ddau eu hasesu drwy aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol.
Cyfleoedd Dilyniant
Gosodiadau Trydanol neu Beirianneg (Diploma Lefel 2).
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae dillad amddiffynnol personol (esgidiau ac oferôls) a phecyn offer Gosodiadau Trydanol sylfaenol yn hanfodol.
Tycoch
Cwrs ar gael yn Gymraeg:
No