Trosolwg o’r Cwrs
Gallai'r cwrs gael ei ailddilysu
Hyd: Dwy flynedd
Ffocws cyffredinol y cwrs hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad galwedigaethol wrth ddatblygu gwybodaeth helaeth o faterion a chysyniadau rheoli chwaraeon o fewn cyd-destun yr amgylchedd diwydiant hamdden ehangach.
Diweddarwyd Rhagfyr 2022
Mae Blwyddyn 1 yn cynnwys:
- Rheoli ffitrwydd a lles
- Dulliau ymchwil a dysgu mewn cyfnod digidol
- Rheoli digwyddiad chwaraeon
- Sefydliadau chwaraeon ac arweinyddiaeth
- Chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chymdeithas
- Hyfforddi chwaraeon ac adolygiadau perfformiad
Mae Blwyddyn 2 yn cynnwys:
- Hyfforddi cymhwysol a diwylliannau perfformiad uchel
- Cynllunio a darparu chwaraeon yn y gymuned
- Rheoli’r amgylchedd chwaraeon proffesiynol ac elit
- Seilwaith, dylunio a gweithredu chwaraeon
- Y byd chwaraeon diwylliannol
- Lleoliad gwaith ac adeiladu brand personol art gyfer cyflogaeth gynaliadwy
Gofynion Mynediad
O leiaf 48 pwynt UCAS
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd myfyrwyr hefyd yn gweithio tuag at gymwysterau hyfforddi, cymhwyster Safon Uwch 2 Hyfforddwr Campfa a chymhwyster stiward diogelwch.
Bydd lleoliad gwaith ym Mlwyddyn 2 am 120 awr.
Cyfleoedd Dilyniant
Mae’r cwrs yn rhoi’r sgiliau a’r galluoedd perthnasol i fyfyrwyr ar gyfer gyrfa yn sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y diwydiannau chwaraeon, hamdden, digwyddiadau ac iechyd a ffitrwydd. Fel arall, gall myfyrwyr ymuno â blwyddyn olaf y rhaglen radd BA (Anrh) Rheoli Chwaraeon ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae rhagor o gyfleoedd i’w gweld ar wefan Gyrfaoedd mewn Chwaraeon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Achrediad Dysgu Blaenorol
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS
Y ffioedd dysgu yw £9,000 y flwyddyn. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, bydd rhaid i fyfyrwyr gael benthyciad ffioedd dysgu am y swm llawn.
Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 y flwyddyn (mae hyn yn dibynnu ar ddilyniant boddhaol ar y cwrs). I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn, h.y.:
- teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
- costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- argraffu a rhwymo
- gynau ar gyfer seremonïau graddio
- tua £60 am becyn cit
- £38 tuag at wiriad DBS sy’n ofynnol ar gyfer y cwrs