Byw’n Annibynnol

 

Mae amrywiaeth o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar gael, wedi’u teilwra ar gyfer myfyrwyr ag anawsterau dysgu, anghenion addysg arbennig a/neu ofynion ymddygiadol. 

Mae gennym berthynas waith agos ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Dinas a Sir Abertawe sy’n sicrhau bod y cyrsiau yn cyfateb ag anghenion addysgol y myfyrwyr. 

Addysgir cyrsiau amser llawn ar Gampws Tycoch.

Mae’r rhaglen astudio amrywiol yn dilyn pedwar maes:

  • Sgiliau byw’n annibynnol
  • Iechyd a lles
  • Cyflogadwyedd
  • Cynhwysiant cymunedol.

Rydym yn credu’n gryf mewn integreiddio myfyrwyr i fywyd y Coleg, gyda chefnogaeth lawn ein staff cymwysedig a phrofiadol. Bydd myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau chwaraeon a sgiliau cenedlaethol.

Bits and Bobs

Mae myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol yn cael profiad gwaith rheolaidd yn Bits and Bobs, y siop gyffredinol maen nhw’n ei rhedeg ar gampws Tycoch. Mae’r myfyrwyr a’r staff yn ei chael yn ddefnyddiol galw heibio i brynu’r hanfodion hynny sydd eu hangen arnynt yn ystod y dydd ac mae’r myfyrwyr ILS yn cael amrywiaeth o brofiad wrth arddangos nwyddau, darparu gwasanaeth cwsmeriaid a thrin arian.