Skip to main content
Graffeg "Wythnos Addysg Oedolion - Peidiwch byth â rhoi'r gorau i ddysgu" yn cynnwys person yn gwenu ar eu ffôn, logos yr ALW a'r logos cysylltiedig (Llywodraeth Cymru, Sefydliad Dysgu a Gwaith, Gyrfa Cymru a Cymru'n Gweithio), a hashnodau #paidstopiodysgu ac #wythnosaddysgoedolion

Sesiynau am ddim ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion!

Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu yng Nghymru, a gydlynir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Nod yr ymgyrch yw ysbridoli mwy o bobl i ddarganfod angerdd am ddysgu, dablygu sgiliau a dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu!   

Eleni, cynhelir Wythnos Addysg Oedolion ar ddydd Llun 17 - ddydd Gwener 21 Hydref, a bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn darparu amrywiaeth o sesiynau ar-lein am ddim. Darganfydda dy angerdd am ddysgu, gloywa dy sgiliai iaith, gwella dy les neu gefnoga ddatblygiad dy yrfa. Peidiwch byth â rhoi'r gorau i ddysgu!

I gofrestru am y sesiynau, cliciwch ar y teitlau perthnasol.

Dydd Llun 18 Medi

10-10.30am: Llunio Arweinyddiaeth: Prentisiaethau Rheolaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Sesiwn micro addysgu ar egwyddorion arwain a rheoli a fydd yn ymdrin â damcaniaethau o ran hybu arferion gorau wrth arwain a rheoli timau.

12.30-1.30pm: Uwchsgilio eich gweithlu: Gwybodaeth am y Gronfa Ffyniant Gyffredin i gyflogwyr
Bydd y sesiwn hon i gyflogwyr yn amlinellu’r cyfleoedd sydd ar gael trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer Digidol, Cyflogadwyedd a Lluosi. Nod y mentrau yw uwchsgilio unigolion a gweithwyr mewn sgiliau Mathemateg a Digidol yn rhad ac am ddim, os yw’r meini prawf cymhwystra yn cael eu bodloni. Bydd cyflogwyr yn gallu dysgu mwy a gofyn cwestiynau er mwyn deall a defnyddio’r ymyriadau a gynigir gan Goleg Gŵyr Abertawe.

1-3pm: Prentisiaethau dwyieithog: Archwilio cyfleoedd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Sesiwn galw heibio i ddysgu beth mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gallu ei gynnig yn ddwyieithog ar raglenni prentisiaeth, yn ogystal â’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar y cwrs.
 

Dydd Mawrth 19 Medi

11-11.30am: Allweddi eich dyfodol: Trosolwg o gymwysterau Tai yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Bydd y sesiwn hon yn egluro buddion Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), nid yn unig i oedolion ond hefyd i sefydliadau a’r amgylchedd ehangach. Byddwn ni’n rhoi sylw i fodelau a fframweithiau DPP gwahanol ac arferion myfyriol, cyn rhoi trosolwg o’r cymwysterau tai gwahanol sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

1-1.30pm: Eich llwybr i lwyddiant gyrfa: Prentisiaethau, wedi eu symleiddio
Mae prentisiaethau yn darparu ateb cost-effeithiol i strategaeth hyfforddi a recriwtio sefydliad, gan roi modd i unigolion uwchsgilio a datblygu eu gyrfa. Bydd y sesiwn hon yn chwalu mythau cyffredin ynghylch prentisiaethau, gan gynnwys cyllid, cyfyngiadau oedran a phryd maen nhw’n dechrau.   

2-2.30pm: Datgelu eich potensial: Canllaw i’n llwybrau datblygu Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad
Gweithio mewn rôl sy'n cynnwys darparu Cyngor ac Arweiniad i eraill? Bydd ein gweminar yn eich galluogi i ddysgu gwersi allweddol ar gyfer gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a dysgu mwy am y llwybrau sydd ar gael.

3-3.30pm: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy: Llunio dyfodol gwyrddach gyda Choleg Gŵyr AbertaweSesiwn sy’n ymwneud â chynaliadwyedd ac arferion amgylcheddol da. Bydd y sesiwn yn hybu dealltwriaeth o sut mae gweithgarwch busnesau yn cael effaith ar aer, tir a dŵr a’r amgylchedd ehangach.

Dydd Mercher 20 Medi

10-10.30am: Llywiwch eich Trawsnewidiad Digidol gyda Phrentisiaethau Uwch

1-1.30pm: Rheoli rhagoriaeth mewn Gweinyddu Busnes

2-2.30pm: Datod eich potensial: Rôl Sefydliadau wrth Reoli Cyfleusterau
Bydd y sesiwn yn rhoi trosolwg o Reoli Cyfleusterau, ynghyd ag effaith Rheoli Cyfleusterau ar sefydliadau. 

Dydd Iau 21 Medi

10-10.30am: Adeiladu Rhagoriaeth Glinigol: Y llwybr i lwyddiant gyda Choleg Gŵyr Abertawe
Sesiwn sy’n caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a darpar weithwyr gofal iechyd ennill dealltwriaeth o lwybrau prentisiaethau clinigol a datblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth. Byddant hefyd yn cael gwybodaeth am gymwysterau sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion. 

Dydd Gwener 22 Medi

10-10.30am: Prentis i arbenigwr: Marchnata Digidol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Yn y byd digidol sy’n datblygu’n gyflym heddiw, mae’n hanfodol bod busnesau yn aros ar y blaen ac yn defnyddio grym marchnata digidol i ffynnu. P’un a ydych yn fusnes bach newydd neu’n gwmni sefydledig, bydd y weminar fer hon yn rhoi’r wybodaeth a’r strategaethau sydd eu hangen arnoch i addasu a llwyddo yn yr oes farchnata ddigidol gydag awgrymiadau a chymhorthion defnyddiol.

11-11.30am: Gwelliannau darbodus: Ysgogi arbedion cost ar gyfer llwyddiant busnes
Darganfyddwch sut rydyn ni wedi datblygu ein cymhwyster i fynd i’r afael â heriau ariannol busnesau yn y 21ain ganrif.

Gweld cyrsiau addysg oedolion

Cysylltwch â ni!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y sesiynau Wythnos Addysg Oedolion neu hoffech ddysgu rhagor, cysylltwch â ni: 

E-bost: hello@gcs.ac.uk
Ffôn: 01792 284400