Skip to main content
Llun grŵp o staff a myfyrwyr gyda baneri yn y cefndir / Staff and students group photo with flags in background

Chwe myfyriwr yn cyrraedd y rowndiau terfynol

Ar ôl rownd ddwys o ragbrofion, mae Coleg Gŵyr Abertawe wrth eu bodd bod chwe myfyriwr wedi cyrraedd Rowndiau Terfynol WorldSkills UK. Y myfyrwyr hyn yw:

Tarran Spooner, Faroz Shahrokh, Rhys Lock – Electroneg Ddiwydiannol
Callie Morgan  – Dylunio Graffeg
Georgia Cox  – Technegydd Labordy
Cameron Bryant – Sgiliau Sylfaen: Gwasanaethau Bwytai

Byddan nhw nawr yn cymryd eu lleoedd ochr yn ochr â thros 400 o fyfyrwyr a phrentisiaid talentog eraill yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol ar 14-17 Tachwedd.

Yn y rowndiau hyn byddan nhw’n cystadlu mewn dros 50 o gystadlaethau sgiliau gwahanol yn amrywio o adeiladu digidol, iechyd a gofal cymdeithasol a gweithgynhyrchu haen-ar-haen i ffabrigo metelau a seiberddiogelwch.

“Rydyn ni mor falch o’n holl fyfyrwyr sy’n cymryd rhan eleni. Llongyfarchiadau mawr i’r myfyrwyr hyn ar gyrraedd y rowndiau terfynol,” meddai Deon y Gyfadran a’r Llysgennad Sgiliau Cath Williams. “Mae eu gwaith caled wir wedi talu ar ei ganfed ac nawr maen nhw’n gallu dechrau canolbwyntio ar yr heriau sydd o’u blaenau ym mis Tachwedd, dyma gyfle gwych iddyn nhw ddangos eu sgiliau ochr yn ochr â’r goreuon.