Cynlluniau uchelgeisiol Plas Sgeti yn cael y golau gwyrdd


Diweddarwyd 04/10/2019

Bydd gweledigaeth Coleg Gŵyr Abertawe i ailddatblygu Plas Sgeti fel Ysgol Fusnes yn mynd yn ei blaen yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cyllid – sydd ar gael trwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg – yn rhoi modd i ni wireddu’r cynlluniau adnewyddu uchelgeisiol, sy’n cynnwys ystafelloedd addysgu uwchdechnolegol newydd sbon, lle cymdeithasol, bar coffi a llyfrgell.
 
Mewn datblygiad cadarnhaol ar wahân, mae’r Coleg hefyd wedi derbyn statws ‘caniatâd adeilad rhestredig’ gan Gyngor Abertawe sy’n golygu y gall y gwaith ailwampio ddechrau cyn gynted ag sy’n bosibl.

Bydd Plas Sgeti, adeilad rhestredig Gradd II sy’n gorwedd ar diroedd hardd ger Parc Singleton, yn gartref i amrywiaeth eang o gyrsiau busnes a rheolaeth proffesiynol, cymwysterau lefel uwch, prentisiaethau a phrentisiaethau gradd, i gyd wedi’u haddysgu gan y Coleg. 

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo arian tuag at y prosiect cyffrous hwn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau’r gwaith,” dywedodd Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes Coleg Gŵyr Abertawe.

“Bydd Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn gwella portffolio presennol y Coleg, gan sicrhau ein bod yn parhau i addysgu’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion a chyflogwyr yn ein hardal. Rydyn ni’n ymrwymedig i gyflawni prosiect adnewyddu sy’n sensitif i statws yr adeilad hanesyddol enwog hwn a rhoi amgylchedd dysgu ysbrydoledig sydd â’r cyfleusterau diweddaraf i’n myfyrwyr.”

Bydd Plas Sgeti, sydd wedi bod yn rhan o ystâd y Coleg er 1994, yn ailagor ei ddrysau i fyfyrwyr yng ngwanwyn 2020.

Tags: