Skip to main content
Myfyriwr yn sefyll gyda balwnau

Entrepreneur ifanc yn creu argraff ar arweinwyr busnes

Mae William Evans, myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, yn dangos doniau ymarferol go iawn ym maes entrepreneuriaeth er ei fod yn ddim ond 16 oed.

Mae Will yn astudio cwrs BTEC Busnes ar Gampws Gorseinon, a ddwy flynedd yn ôl dechreuodd werthu wyau o dyddyn ei deulu ym Mro Gŵyr. Gan fod y gymuned mewn cyfnod clo ar y pryd, mentrodd Will i gynnig gwasanaeth dosbarthu i gartrefi oedd yn boblogaidd iawn gyda’i gwsmeriaid a oedd yn awyddus i siopa’n lleol.

Er ei fod yn dal i werthu wyau o flwch gonestrwydd yn y Crwys, mae gorwelion busnes Will bellach wedi ehangu trwy ddatblygu fferm anifeiliaid anwes gan gynnwys alpacas, moch cwta, geifr a chwningod.

Gyda chymorth a chefnogaeth ei deulu, mae fferm anifeiliaid anwes Will wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’r gymuned leol. Mae’n arbennig o boblogaidd gyda chylchoedd chwarae lleol sy’n dod â’r plant draw i gwrdd â’r anifeiliaid a’u mwytho mewn amgylchedd diogel.

Mae talentau busnes Will eisoes wedi denu sylw’r cyfryngau, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar bennod o Coast and Country ar ITV*.

Mewn gweithdy Hyb Menter a gynhaliwyd yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti ddechrau mis Tachwedd, gwelwyd doniau Will gan gynrychiolwyr o Syniadau Mawr Cymru hefyd a ddangosodd ddiddordeb brwd yn ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

“Bydden ni’n awyddus iawn i weithio gyda Will fel Llysgennad Ifanc i Syniadau Mawr Cymru er mwyn iddo allu arddangos ei ddoniau i ysgogi ac ysbrydoli pobl ifanc eraill yng Nghymru,” meddai’r cynghorydd Miranda Thomas. “Mae Will yn esiampl berffaith sy’n profi bod cychwyn busnes yn bosibl ni waeth beth yw’ch oedran – os ydych chi’n angerddol am eich syniad busnes, gallwch chi wireddu’ch nodau.”

“Mae gan Will y cyfuniad buddugol hwnnw o syniadau busnes gwych a’r hyder i fynd amdani,” cytunodd Hyrwyddwr Menter y Coleg, Claire Reid. “Mae bod â’r egni a’r weledigaeth i ddechrau busnes yn ddim ond 14 oed, yn enwedig wrth ymateb i anghenion ei gymuned leol fel y gwnaeth, yn drawiadol iawn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gynorthwyo Will wrth iddo ddatblygu ei syniadau ymhellach.”

* O 17 munud.