Skip to main content

Coleg Gŵyr Abertawe a'r Drindod Dewi Sant yn cydweithio i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent peirianneg

Mae Coleg Gŵyr Abertawe (GCS) yn cydweithio gyda Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o Beirianwyr Chwaraeon Moduro.

Dechreuodd Y Drindod y radd Peirianneg Chwaraeon Moduro gyntaf yn 1998 ac mae wedi datblygu enw ardderchog yn y diwydiant, gan alluogi i fyfyrwyr ddatblygu’r arbenigedd penodol sydd ei angen wrth ddylunio, datblygu, peirianneg, a delweddu cerbydau cystadleuaeth mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf. Mae myfyrwyr Diploma mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch (Chwaraeon Moduro) Lefel 3 Coleg Gŵyr Abertawe yn mynychu campws Glannau SA1 Abertawe’r Brifysgol bob wythnos lle cânt eu haddysgu gan staff GCS a’r Drindod. Cafodd y cwrs ei greu o ganlyniad i’r bartneriaeth gydweithredol newydd hon.

Meddai Dr Greg Owen, Cyfarwyddwr Academaidd Y Drindod: “Yn y Drindod, mae gennym hanes maith o redeg cyrsiau Peirianneg Chwaraeon Moduro ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ac i hwyluso anghenion ein dysgwyr lleol, daeth ein dau sefydliad ynghyd i alluogi datblygiad Diploma mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu (Chwaraeon Moduro) Lefel 3

“Mae dysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn mynychu campws SA1 bob dydd Mawrth trwy gydol y calendr academaidd a chânt eu haddysgu’n gydweithredol gan staff addysgu’r coleg a’r brifysgol. Rydym wedi darparu gweithdy chwaraeon moduro, labordy Cyfrifiaduron a dau gerbyd rasio sy’n gweithio’n llawn ar gyfer ein partneriaid er mwyn i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau peirianneg sy’n gysylltiedig â Pheirianneg Chwaraeon Moduro.

“Dyma gyfle gwych i’n prifysgol ymgysylltu â’r gymuned leol a datblygu ein perthynas gwaith agos gyda Choleg Gŵyr Abertawe ymhellach.”

“Mae’r bartneriaeth rhwng Coleg Gŵyr Abertawe a’r Drindod yn ardderchog ar gyfer ein myfyrwyr,” meddai Jason Lewis, Arweinydd Cwricwlwm a Darlithydd Cerbydau Modur Coleg Gŵyr Abertawe.

“Yn fwyaf diweddar, maent wedi bod yn dysgu am dechnoleg siasïau gyda ni a’i roi ar waith yn y brifysgol drwy gydosod car gyda’u manylebau eu hunain ar gyfer yr efelychydd rasio. Mae’n rhoi cipolwg go iawn i mewn i astudio yn y brifysgol, gan ddangos y rhagolygon gyrfa y gallant anelu ato a’u hysbrydoli i weithio tuag at swyddi â chyflogau uwch. Hefyd, bydd opsiwn i’r rheiny sy’n cwblhau eu cyrsiau ddechrau Gradd-brentisiaeth yn y brifysgol. Rydym yn ddiolchgar i’r Drindod ac yn gyffrous i barhau â’n cydweithio.”

Ychwanegodd Denise Thomas, Rheolwr Maes Dysgu Peirianneg Coleg Gŵyr Abertawe; “Mae’r dysgwyr yn mwynhau’r cyfle i ddatblygu eu sgiliau yng nghampws llawn offer SA1 Y Drindod. Rwy’n edrych ymlaen at gyfleoedd eraill ar gyfer gwaith cydweithredol gyda’r brifysgol.”

Meddai Cameron Andrews, un o fyfyrwyr y Coleg: “Rwyf wir yn mwynhau popeth am y cwrs Chwaraeon Moduro yng Ngholeg Gŵyr Abertawe – mae’n gymysgedd gwych o’r ymarferol a theori, mae’n eithaf heriol ac rwy’n dysgu llawer! Rwy’n mwynhau astudio yng nghampws Glannau’r Drindod gan fod y darlithwyr mor wybodus ac mae’r gweithdy’n enfawr sy’n wych ar gyfer y gwaith ymarferol – mae’n brofiad gwych.”

Ychwanegodd Cole Trubey: “Cofrestrais ar y cwrs Chwaraeon Moduro oherwydd fy mod wedi hoffi ceir ers oeddwn yn ifanc ac wedi eisiau gweithio gyda nhw erioed – dylunio, gwneud, neu eu trwsio. Mae’r gweithdy ar gampws SA1 Y Drindod yn wych; gallwn gael mynediad at bopeth rydym eu hangen gan gynnwys technoleg uwch a’r efelychydd rasio! Ers dechrau’r cwrs, rwyf bellach wedi penderfynu yr hoffwn fynd i faes chwaraeon moduro gyda thîm rasio.”

Meddai Rhys Thomas: “Dechreuais gyrsiau Safon Uwch ond nid oeddwn yn eu mwynhau ac ar ôl cael hoe am flwyddyn o’m hastudiaethau, penderfynais bod angen i mi ddilyn rhywbeth roeddwn yn angerddol amdano. Ers oeddwn yn ifanc, rwyf wedi mwynhau dysgu am a gwylio rhaglenni am geir, ac felly’r cwrs yng Ngholeg Gŵyr Abertawe oedd yr opsiwn perffaith. Mae’r cwrs yn llawer o hwyl; rwy’n mwynhau’r gwaith ymarferol a’r asesiadau a’m hoff beth hyd yma yw dysgu am injans – mae gweld faint o fanylder sy’n mynd mewn iddynt a faint y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth enfawr mor ddiddorol! Rwyf wir yn mwynhau bod mewn gwahanol amgylchedd pan awn ni i’r Drindod. Mae’r darlithwyr yn dda, mae’r golygfeydd yn wych o’r campws ac mae’n ddefnyddiol dysgu sut beth yw mynd i’r brifysgol. Rwyf bellach yn bwriadu astudio chwaraeon moduro yn y brifysgol.”