Skip to main content
Llun pen ac ysgwydd o fenyw / Head and shoulders shot of woman

Heledd yn cael blas ar lwyddiant

Person with cake

Mae’r myfyriwr Busnes Coleg Gŵyr Abertawe, Heledd Hunt, yn brysur yn jyglo ei hastudiaethau Lefel 3 a rhedeg ei chwmni ei hun.

Cychwynodd Heledd ei busnes – Hels Bakes Cakes – ym mis Medi 2022, gan arlwyo ar gyfer digwyddiadau megis partїon pen-blwydd. A hithau’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn un o Lysgenhadon Cymraeg y Coleg, yn ddiweddar gofynnwyd iddi arlwyo ar gyfer digwyddiadau’r Wythnos Gymraeg ar draws y campws, lle roedd 250 o’i chacennau cwpan i’w gweld ar y fwydlen.

Mae Heledd hefyd yn gweithio’n rhan-amser mewn caffi yn Llandeilo o’r enw Lolfa, ac yn cyflenwi amrywiaeth o ddanteithion melys iddynt gan gynnwys brownis, cacennau cwpan, a blondis ac mae’r cwsmeriaid yn dwlu arnynt.
 
“Dwi wedi caru pobi ers yn oedran ifanc,” meddai Heledd. “Ond pan oeddwn i’n gweithio yn y caffi, dechreuais i sylweddoli faint mae pobl yn caru cacennau ac roedd hynny wedi rhoi anogaeth i mi droi fy niddordeb mewn pobi yn fusnes. Beth sy’n well nag ennill arian am wneud rhywbeth dwi’n ei garu?”

Mae jyglo astudiaethau amser llawn a’i busnes pobi yn gallu bod yn anodd weithiau ac felly mae’n rhaid i Heledd wneud yn siŵr nad yw hi’n cymryd gormod o archebion yn ystod yr wythnos (er ei bod yn treulio sawl noson hwyr yn pobi!)

“Y cyngor y byddwn i’n ei roi i ddarpar entrepreneuriaid eraill yw - dewch o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb i chi ac ewch amdani,” meddai Heledd. “Does dim byd yn eich dal yn ôl, ac ar ôl dechrau mae’r byd i gyd o’ch blaen! Byddwn i hefyd yn dweud wrthyn nhw am gymryd mantais o’r cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o hysbysebu eu hunain. Bydd treulio amser yn gwneud hynny bob dydd yn helpu i adeiladu’ch brand a bydd yn talu ar ei ganfed yn y pen draw.”

Ar ôl gorffen yn y Coleg, mae Heledd yn gobeithio agor ei chaffi ei hun, yn gwerthu ei chacennau ei hun, ynghyd â darparu bwydlen bwyd a diod lawn. Mae hefyd yn anelu at gynnal nosweithiau â thema a chydweithredu â busnesau bach lleol eraill i gael siopau dros dro ar y safle.

“Mae astudio busnes yn y Coleg wedi bod yn fanteisiol dros ben,” meddai. “Mae wedi rhoi cyfle i mi ennill llawer mwy o wybodaeth am gamau ymarferol rhedeg menter lwyddiannus.”