Skip to main content

Mae Caroline wedi dwlu ar ddychwelyd i addysg

Yn ddiweddar, fe wnaethon ni ddal i fyny â Caroline, myfyriwr Gradd Sylfaen mewn Addysg, Dysgu a Datblygu sydd newydd orffen ei hail flwyddyn.

Ar ôl treulio blynyddoedd maith yn gweithio mewn amgylchedd addysgol, fe wnaeth Caroline sicrhau statws fel Uwch-gynorthwyydd Dysgu yn 2007, ac mae hi wedi bod yn gweithio yn y rôl byth ers hynny.

“Penderfynais ddychwelyd i’r coleg i ddiweddaru fy nghymwysterau ac i symud ymlaen i’r lefel nesaf,” dywedodd. “Pan fynychais noson agored y coleg ym Medi 2019, roeddwn i ar fin cofrestri ar gyfer cwrs gwahanol. Ond ar ôl siarad â’r staff Addysg Bellach, fe benderfynais ddewis dilyn cwrs Gradd Sylfaen mewn Addysg, Dysgu a Datblygu.”

Mae Caroline yn mwynhau’r cwrs yn fawr, ac mae hi wedi gwella ei sgiliau ysgrifennu academaidd yn ogystal â chael mewnwelediad i fyd addysg.

“Mae’r cwrs wedi fy helpu i ddadansoddi fy arferion fy hun ac wedi fy nghaniatáu i ddeall sut y gallaf gefnogi plant yr ysgol yn well,” dywedodd. “Dw i wedi mwynhau’r cwrs ac wedi cael hwyl yn ymchwilio ar gyfer yr aseiniadau diddorol. Mae fy sgiliau ysgrifennu academaidd wedi gwella dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac rydw i’n falch o’r hyn rydw i wedi ei gyflawni hyd yma. Dw i’n edrych ymlaen at y drydedd flwyddyn.”

Mae Carloine o’r farn bod y cwrs yn berffaith i unrhyw un sy’n dymuno symud ymlaen o fewn y sector addysgu.

“Rwy’n argymell y cwrs hwn i unrhyw Gynorthwywyr Dysgu sydd eisiau diweddaru eu cymwysterau, neu i’r rhai sydd yn dymuno symud ymlaen i addysgu”, dywedodd. “Mae’r cwrs yn ffordd dda o ennill dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu a datblygu.”

Mae profiad addysgol Caroline a’r gefnogaeth a gafodd gan y Coleg wedi bod o fudd mawr iddi wrth astudio’r cwrs.

“Mae bod yn fyfyriwr hŷn wedi gweithio o fy mhlaid, gan fy mod yn gallu galw ar fy ngwybodaeth a fy mhrofiad er mwyn cwblhau aseiniadau,” dywedodd. “Mae’r darlithoedd a staff y llyfrgell wedi bod wych ac maen nhw wedi fy narparu â digonedd o gymorth ac arweiniad. Mae gan y llyfrgell ddetholiad gwych o lyfrau defnyddiol y gallwch eu cyrchu ar-lein ac yn y llyfrgell addysg uwch.”

Mae astudio Gradd Sylfaen mewn Addysg, Dysgu a Datblygu wedi ysgogi Caroline i chwilio am swydd gyda lefel uwch o gyfrifoldebau, ar ôl cwblhau ei chwrs.

Gall unrhyw un sy’n dymuno dilyn olion traed Caroline wneud cais i astudio Gradd Sylfaen mewn Addysg, Dysgu a Datblygu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Mae’r cwrs yn gyfle i chi ennill gradd sy’n cyfuno gweithgareddau seiliedig ar waith â dysgu yn y gwaith.

https://www.gcs.ac.uk/part-time-he-course/foundation-degree-education-l…