Skip to main content

Myfyrwyr yn cymryd rhan ym Mŵtcamp Echwaraeon cyntaf Gwdihŵs CGA

Roedd dros 40 o fyfyrwyr o safleoedd ar draws Coleg Gŵyr Abertawe wedi mwynhau eu bŵtcamp cyntaf fel Gwdihŵs CGA yn ystod hanner tymor yn yr ystafell Echwaraeon, Ward 4, Hill House, Campws Tycoch.

Gwahoddwyd y myfyrwyr i gymryd rhan mewn diwrnod llawn gweithgareddau rhwng 9am a 6pm a oedd yn cynnwys sesiynau hyfforddi, sgyrsiau gan westeion arbennig, arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant o bob rhan o’r byd, gemau cystadleuol yn erbyn colegau eraill, twrnameintiau hwyliog a gemau adeiladu tîm.

Ers iddynt gael eu sefydlu yn 2019 gan Neil Griffiths, mae timau Echwaraeon Gwdihŵs CGA wedi cael llawer o lwyddiannau, gan gymryd rhan mewn twrnameintiau Echwaraeon amrywiol ar-lein yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae staff CGA yn canolbwyntio ar ddarparu popeth sydd ei angen ar y myfyrwyr i gystadlu a chael cyflogaeth yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn y byd.

Ar hyn o bryd mae gan Gwdihŵs CGA bum tîm yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Myfyrwyr Echwaraeon Prydain, twrnamaint y DU sy’n cynnwys cannoedd o dimau o ysgolion a cholegau o bob rhan o’r DU.

Yn ystod cam cyntaf y gystadleuaeth, symudodd y pum tîm ymlaen i’w grwpiau bwrw allan unigol ar gyfer rowndiau terfynol cystadlaethau’r gaeaf. I ddathlu’r llwyddiant hwn ac i ddatblygu sgiliau tîm gwahoddwyd y myfyrwyr i gymryd rhan ym Mŵtcamp Echwaraeon Gwdihŵs CGA yn ystod hanner tymor.

Roedd MAD BigTime, hyfforddwr cynorthwyol Valorant a dadansoddwr ‘Mad Lions’, sef tîm Echwaraeon byd-eang amlwg o Sbaen, wedi ymuno â’r Gwdihŵs ar gyfer y digwyddiad, gan gyflwyno anerchiad gwadd ar ‘Ymyriadau yn y gêm - cymhelliant a hyder’. Mewn anerchiad a ddisgrifiwyd gan dîm Valorant fel un ‘diddorol a chyffrous’, dysgodd y myfyrwyr am strategaethau effeithiol i wella lefelau perfformio chwaraewyr Echwaraeon a’r tîm.

Ymunodd Spilo â’r tîm wedyn. Mae Jacob “Spilo” Clifton yn hyfforddwr Americanaidd a weithiodd ddiwethaf i London Spitfire, tîm sy’n cynrychioli Llundain, y DU, yng Nghynghrair Overwatch sy’n eiddo i Cloud 9, cwmni Echwaraeon proffesiynol wedi’i leoli yn Santa Monica, Califfornia. Mewn anerchiad ar y pwnc ‘Datblygu sgiliau a thechnegau ar gyfer gwell perfformiad tîm’, siaradodd Spilo â’r tîm am bwysigrwydd cyfathrebu a chydlyniant tîm. Roedd gwybodaeth a phrofiadau Spilo wedi creu argraff fawr ar y myfyrwyr a dywedodd tîm Overwatch fod “Spilo wedi ein hysbrydoli ni i fynd â’n sgiliau chwarae tîm i’r lefel nesaf.”

Yn ymuno â’r tîm yn olaf roedd ‘Dr. Respawn’, sef Dr. Jordan Tsai o Santa Monica yng Nghaliffornia. Mae Dr. Tsai yn gyn-filwr Byddin yr Unol Daleithiau ac yn Therapydd Corfforol Echwaraeon. Mae ei sefydliad, https://www.respawntherapy.com, yn dîm o Therapyddion Corfforol sy’n gwella iechyd a lles chwaraewyr ym mhobman. Maen nhw’n darparu gwasanaethau therapi corfforol i rai o’r sefydliadau Echwaraeon mwyaf yn y byd ac ar draws bron pob teitl. Cafwyd anerchiad gan Dr Tsai ar un o’r pynciau y bu disgwyl eiddgar amdano sef ‘Iechyd a Lles chwaraewyr’, gan roi cyngor ar ddatblygu arferion da i gadw’n iach, yr ymarferion gorau i atal anafiadau yn y dyfodol a sut i osgoi ei gorwneud hi.

“Mae Echwaraeon Gwdihŵs CGA yn mynd o nerth i nerth, mae dysgwyr yn cymryd diddordeb mawr iawn yn y maes, ac mae myfyrwyr ar draws y Coleg yn buddsoddi mewn llwybrau gyrfa newydd a chyffrous”. Dywedodd Cyfarwyddwr CGA, Neil Griffiths, “Rydyn ni’n gweld bod sylw, chwilfrydedd, diddordeb, optimistiaeth ac angerdd y myfywryr wrth wneud Echwaraeon yn ehangu i’w lefelau cymhelliant oherwydd maen nhw’n symud ymlaen yn eu haddysg ac ar raglenni cyfoethogi. Rydyn ni wedi bod wrthi yn gweithio ar ddatblygu partneriaethau newydd â diwydiant ac mae gyda ni ddatblygiadau cyffrous iawn o’n blaenau”.

Dywedodd Kiran Jones, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol Echwaraeon ar gyfer Gwdihŵs CGA, “Roedd yn ddigwyddiad anhygoel. Roedd yn wych gweld cynifer o fyfyrwyr yn dod yn ystod hanner tymor. Daethon nhw at ei gilydd fel un tîm mawr a dangos undod mawr ac mae hyn wedi helpu i wneud ffrindiau a phartneriaethau ar draws gwahanol safleoedd y Coleg. Ers y digwyddiad rydyn ni wedi cael llu o ddilynwyr newydd ac mae timau rhyngwladol mawr iawn yn cadw llygad ar ein timau a’n digwyddiadau cymdeithasol. Roedd yn llwyddiant ysgubol a dwi’n edrych ymlaen i fod yn rhan o’r digwyddiad nesaf.”

Dywedodd Daniel Davies, Darlithydd mewn Cyfrifiadura a Rheolwr Cymuned Echwaraeon a Gemau Cyfrifiadurol Gwdihŵs CGA, “Dwi’n falch iawn bod y Gwdihŵs yn rhoi’r cyfleoedd gwych hyn i’n dysgwyr, a bod y Coleg yn cefnogi datblygiad y diwydiant cyffrous a deinamig hwn”.

“Fe wnaeth ein tîm Valorant gwpla yn gydradd gyntaf allan o 216 o dimau yng nghymal y Swistir ym Mhencampwriaethau Myfyrwyr Echwaraeon Prydain, a dwi’n falch iawn o’r ffordd y mae’r myfyrwyr wedi ymddwyn yn ystod y gaeaf. Y penwythnos hwn, ni yw’r unig Coleg yn y DU i dderbyn gwahoddiad i dwrnamaint Echwaraeon mawr, digwyddiad y ‘Beacon circuit’, a fydd yn profi ein chwaraewyr yn erbyn rhai o dalentau gorau Gogledd Ewrop, gyda chronfa wobrau o £10,000. Dwi’n edrych ymlaen i glywed mwy gan bawb sy’n ymwneud â thîm y Gwdihŵs!”

Dywedodd Darren Fountain, Rheolwr Maes Dysgu (Busnes a Thechnoleg), “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych gan ganiatáu i’n dysgwyr gael eu trochi’n llawn i agweddau o’r diwydiant. Mae’r tîm wedi rhoi digwyddiad unigryw at ei gilydd sydd nid yn unig yn cyfoethogi profiad y dysgwyr ond hefyd yn cyfrannu at eu lles yn y cyfnod canol tymor hwn.”

Roedd adborth myfyrwyr o’r digwyddiad yn hynod gadarnhaol, gyda chapten Cynghrair Rocket, Owen, yn disgrifio’r digwyddiad fel “profiad anhygoel, roedd y Bŵtcamp yn llawer o hwyl, roedd yn bleser bod yn rhan ohono a dwi’n edrych ymlaen at y digwyddiad nesaf!”