Skip to main content
Myfyrwyr yn dathlu llwyddiant canlyniadau

Myfyrwyr yn dathlu llwyddiant canlyniadau

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn dathlu set wych o ganlyniadau Safon Uwch a galwedigaethol Lefel 3. 

Y gyfradd basio gyffredinol eleni ar gyfer Safon Uwch yw 99%, gyda 1220 o gofrestriadau arholiadau ar wahân. Roedd 42% o’r graddau hyn yn A*-A, 70% yn A*-B ac 87% yn A*-C. 

Cafodd cyfanswm o 236 o raddau A* eu dyfarnu i’n dysgwyr Safon Uwch eleni. Mae hyn yn 19% o’n graddau cyffredinol, 3% yn uwch na Chymharydd Cenedlaethol Cymru ar gyfer A*.

Cyfradd pasio gyffredinol Safon UG yw 94%, gyda 67% o’r graddau hynny yn raddau A - C a 49% yn raddau A - B. Roedd 1631 o gofrestriadau arholiadau ar wahân ar gyfer Safon UG. 

Mae canlyniadau galwedigaethol y Coleg hefyd yn gryf eleni gyda 44% o fyfyrwyr Lefel 3 Diploma Estynedig yn cael o leiaf un radd Rhagoriaeth.

Bydd dros 1000 o’n myfyrwyr nawr yn symud ymlaen i brifysgolion ym mis Medi, gan gynnwys Rhydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill ledled y DU. 

“Dwi’n credu mai’r cyfuniad o waith caled ac ymrwymiad gan fyfyrwyr ynghyd â safon uchel yr addysgu a’r cymorth sydd ar gael yn y Coleg – a chafodd llawer ohono ei ddarparu wyneb yn wyneb dros y ddwy flynedd ddiwethaf – sy’n gyfrifol yn y pen draw am y canlyniadau ardderchog hyn,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones.  
 
“Dwi’n hynod o falch o weld y llwyddiant yn y graddau uchaf hynny gyda 64 o fyfyrwyr yn ennill graddau A* i gyd a 161 o fyfyrwyr yn ennill graddau A*-A. 
 
“Mae’n adeg mor gyffrous, ac mae llawer o’r dysgwyr hyn nawr yn symud ymlaen i brifysgolion blaenllaw ledled y DU, i gyflogaeth a phrentisiaethau.”  
 
Ac i unrhyw fyfyrwyr sy’n ansicr ynghylch beth i’w wneud nesaf ar ôl eu canlyniadau, mae Mark yn cynnig y cyngor canlynol: 
 
“Dewch i siarad â ni! Mae gyda ni lawer o staff yn y Coleg sy’n gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar y camau nesaf posibl i ddysgwyr unigol. Er enghraifft, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch yn ein Canolfan Brifysgol ac yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti, ac rydyn ni’n darparu cymorth cyflogadwyedd i’r rhai a hoffai fentro i’r gweithle ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.” 

Dyma rai o’r storïau llwyddiant eleni:

Cafodd Benjamin Akintuyosi raddau Rhagoriaeth yn ei gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 y Celfyddydau Perfformio ac nawr mae’n mynd i RADA ar ôl proses ymgeisio ddwys oedd yn cynnwys pedwar clyweliad gwahanol.

Astudiodd Daniel Arthur (gynt o Ysgol Gyfun Pen-yr-heol) gyrsiau Safon Uwch mewn bioleg, cemeg a hanes. Wrth symud ymlaen yn ei astudiaethau, sylweddolodd mai hanes oedd ei gariad mwyaf ac felly – ar ôl cael graddau A* ym mhob un o’r tri phwnc – mae ar ei ffordd i astudio’r pwnc yn Warwig nawr.  

Manon Bradbeer (gynt o Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru lle enillodd raddau A Safon UG mewn celf a dylunio, Saesneg llenyddiaeth, hanes ac astudiaethau crefyddol). Trosglwyddodd wedyn i Goleg Gŵyr Abertawe i astudio Safon Uwch Gwareiddiad Clasurol o fewn blwyddyn. Fe wnaeth hi hyn yn llwyddiannus iawn, gan barhau â Saesneg llenyddiaeth a hanes a chyflawni graddau A* ym mhob un o’r tri phwnc. Bydd Manon nawr yn cwblhau gradd mewn astudiaethau clasurol yng Nghaerwysg.

Mae Megan Dangerfield (gynt o Ysgol Bryngwyn) wedi dangos awydd penderfynol gan sicrhau graddau A* mewn bioleg, cemeg, daearyddiaeth a mathemateg. Mae Megan wedi sylweddoli mai ei chariad academaidd mwyaf yw cemeg ac mae hi nawr yn mynd i wneud cais am fynediad ym mis Medi 2023 i astudio’r pwnc yn y brifysgol.

Cwblhaodd Ffion Kett-White (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) gyrsiau Safon Uwch mewn bioleg (A*), mathemateg (B) a daearyddiaeth (A*), wedi’u hategu gan Safon UG mewn cemeg. Bydd Ffion nawr yn  mynd i’r brifysgol ym Mryste lle bydd hi’n cwblhau gradd mewn daearyddiaeth, a fydd yn cynnwys amser yn astudio dramor.

Cwblhaodd Megan (Eve) Morgan (gynt o Ysgol Gymunedol Cwmtawe) gyrsiau Safon Uwch mewn mathemateg (A*), bioleg (A*), a chemeg (A), wedi’u hategu gan radd A mewn Safon UG Ffiseg. Nawr bydd hi’n mynd i’r brifysgol yng Nghaerfaddon i wneud gradd mewn cemeg a fydd yn cynnwys y cyfle i gwblhau lleoliad diwydiannol.

Cwblhaodd Gianluca Rabaiotti (gynt o Ysgol Gyfun Pen-yr-heol) gyrsiau Safon Uwch mewn Saesneg iaith a llenyddiaeth (A*); llywodraeth a gwleidyddiaeth (A); hanes (A*) a’r gyfraith (A*). Bydd Gianluca yn mynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen i gwblhau gradd mewn hanes.

Cafodd Jack Barnes (gynt o Ysgol Gyfun Gelli-fedw) ddwy radd A* ac un A yn ei arholiadau Safon Uwch, lle astudiodd cemeg, bioleg a seicoleg. Mae’n mynd i Gaerdydd nawr i astudio cwrs gradd mewn deintyddiaeth.

Lluniau: Rob Melen