O’r Bont i AU!


Diweddarwyd 13/10/2022

Mae hi bob amser yn wych clywed straeon dilyniant ar draws y Coleg ac mae’r stori hon yn fendigedig!

Yn ôl yn 2017, roedd Emma Hill mewn perygl o fod yn NEET. Ymunodd hi â’n rhaglen y Bont tra roedd hi’n meddwl am lwybr gyrfa i’w ddilyn. Ar ôl cwblhau cwrs y Bont gyda phroffil DM, aeth hi ymlaen i’r cwrs L2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac yna i’r cwrs L2 Technolegau Peirianneg.

Yma, daeth Emma o hyd i’w galwedigaeth a symudodd ymlaen i L3 Diploma Estynedig mewn Technolegau Peirianneg, a’i gwblhau yr haf diwethaf gyda gradd Rhagoriaeth. Erbyn hyn mae hi’n dilyn cwrs HND Peirianneg Drydanol ac Electronig yng Nghanolfan Addysg Uwch y Coleg.

Ochr yn ochr â’r llwyddiant academaidd hwn, mae Emma wedi bod yn seren yn stori lwyddiant cystadleuaeth WorldSkills y Coleg, gan gyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol!

Meddai Caryn Morgan: “Mae’n wych gweld dysgwr oedd mewn perygl o fod yn NEET a heb lwybr clir mewn golwg yn bachu ar gyfle i roi cynnig ar wahanol gyrsiau yn y Coleg. Roedd natur benderfynol a dyfalbarhad Emma wedi’i helpu i ddod o hyd i faes pwnc mae ganddi ddiddordeb angerddol go iawn ynddo. Dwi’n falch iawn ei bod hi wedi cofrestru ar raglen AU gyda ni.”

Tags: