Sesiynau rhad ac am ddim ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion!


Diweddarwyd 11/10/2022

Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu yng Nghymru, a gydlynir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Nod yr ymgyrch yw ysbridoli mwy o bobl i ddarganfod angerdd am ddysgu, dablygu sgiliau a dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu!   

Eleni, cynhelir Wythnos Addysg Oedolion ar ddydd Llun 17 - ddydd Gwener 21 Hydref, a bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn darparu amrywiaeth o sesiynau a gweithdai ar-lein am ddim. Darganfydda dy angerdd am ddysgu, gloywa dy sgiliai iaith, gwella dy les neu gefnoga ddatblygiad dy yrfa. Beth am newid dy stori, eleni?

Archebwch le nawr!

Dydd Llun 17 Hydref

11am-12pm: Trosolwg o brentisiaeth cyngor ac arweiniad
Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’n prentisiaeth sy’n addas ar gyfer pobl sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i eraill.

11am-12pm: Paratoi am gyfweliad
Cyflwynir gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, bydd y sesiwn yma yn eich paratoi ar gyfercyfweliad, yn edrych ar wahanol fformatau cyfweliad, a sut i ymddwyn mewn cyfweliad.

11am-12.25pm: Celf ar gyfer lles
Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut mae creadigrwydd yn gallu helpu i hyrwyddo llescadarnhaol a lleddfu symptomau straen a gorbryder.

1-1.45pm: Trosolwg o’r brentisiaeth gyfieithu
Bwriedir y sesiwn hon i’r rhai sy’n rhugl mewn Cymraeg a Saesneg, ac sy’nymwneud â dyletswyddau cyfieithu ysgrifenedig gan y bydd yn rhoi trosolwg o’nprentisiaeth uwch. 

1-2pm: Codi eich brand
Bydd y sesiwn yma yn canolbwyntio ar godi eich brand ac atgyfnerthu eich hunaniaeth.

1-2pm: Dylunio gwe
Dysgwch sut i greu gwefan sy’n gweithredu’n llawn ganddefnyddio HTML a CSS yn y sesiwn yma.

2:30-3.55pm: Straeon data
Bydd y sesiwn hon yn cwmpasu gwahanol fathau o ddata, beth i’w flaenoriaethu asut i nodi cyfleoedd ar gyfer tyfu brand.

Dydd Mawrth 18 Hydref

9.30-10am: Egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng anghenion a disgwyliadaucwsmeriaid a phwy sy’n elwa ar ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog.

10-11am: Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg i chi o’r newidiadau sy’n dod o ganlyniad iweithrediad y ddeddf yn Rhagfyr 2022.

11am-12pm: Trosolwg o brentisiaeth Cyngor ac Arweiniad ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Bwriedir y sesiwn hon ar gyfer staff sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster rheolwyr gofalcymdeithasol.

2-2.45pm: Trosolwg o brentisiaeth Cyngor ac Arweiniad Gyrfa
Y Coleg yw un o’r unig ddarparwyr yng Nghymru sy’n darparu’r cymhwyster hwn. Bydd ysesiwn hon yn rhoi dealltwriaeth i chi o gynnwys y cwrs a’r model addysgu.

Dydd Mercher 19 Hydref

9.30-10am: Egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng anghenion a disgwyliadaucwsmeriaid a phwy sy’n elwa ar ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog.

9.30-10.15am: Trosolwg o  brentisiaeth Cyngor ac Arweiniad Gyrfa
Y Coleg yw un o’r unig ddarparwyr yng Nghymru sy’n darparu’r cymhwyster hwn. Bydd ysesiwn hon yn rhoi dealltwriaeth i chi o gynnwys y cwrs a’r model addysgu. 

11-11.45am: Ymwybyddiaeth iechyd meddwl
Bydd y dosbarth hwn yn canolbwyntio ar nodi, deall ac ymateb i rywun sy’n profianawsterau iechyd meddwl.

11-11.45am: Defnyddio sgiliau rhyngbersonol mewn canolfan gyswllt
Datblygwyd y dosbarth hwn i gydnabod gweithrediadau canolfan gyswllt a’r lefel o sgiliaurhyngbersonol sydd eu hangen wrth ddelio â materion canolfan gyswllt arferol.

11.30am-12pm: Iaith arwyddion
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad byr ac ymwybyddiaeth i chi o fyddardod a dysguIaith Arwyddion Prydain. 

12-12.45pm: Datblygu Cymunedol
Bydd y dosbarth hwn yn canolbwyntio ar gynnwys y cwrs yn ogystal ag esboniad byr o ddatblygu cymunedol a’r rôl y mae’n berthnasol iddi.

12-1pm: Cyflwyniad i reoli cyfleusterau
Bydd y gweithdy hwn yn esbonio rheoli cyfleusterau a’i bwysigrwydd o ran rhedeggweithrediadau’n esmwyth mewn unrhyw sefydliad. 

1-2pm: Cyflwyniad i gadw cyfrifon
Bydd y sesiwn hon yn cwmpasu elfennau cofnodi dwbl i’r fantolen brawf, sefsylfaen pob gwaith cyfrifeg.

2-3pm: Awgrymiadau Microsoft Teams
Bydd y sesiwn hon yn codi cwr y llen ar sut mae Microsoft Teams yn gweithio, eiswyddogaethau, ei lwybrau byr, yn ogystal ag awgrymiadau gwych. 

2.30-3.55pm: Graffeg a chreu cyfryngau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
Bydd y dosbarth hwn yn sesiwn blasu ar gyfer y rhai sydd am fynd â’u sgiliau dylunio i’rlefel nesaf gan ychwanegu naws broffesiynol drwy raffeg a dylunio. 

Dydd Iau 20 Hydref 

11.30am-12pm: Cymraeg
Bydd y sesiwn hon yn datblygu’ch dealltwriaeth o bwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg yny gweithle gyda chipolwg ar y cyrsiau sydd ar gael i ddatblygu’ch sgiliau. 

2-2.45pm: Mynediad i addysg bellach/cyfraith busnes
Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn senario Dragons' Den lle byddwch yn creu syniadbusnes a thrafod y gofynion cyfreithiol ar gyfer sefydlu’r busnes hwnnw.

2-3.25pm: Cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnes 
Bwriedir y cwrs hwn i weithredwyr busnesau bach sy’n dymuno defnyddio cyfryngaucymdeithasol i gysylltu â chwsmeriaid, cynyddu ymwybyddiaeth brand a hybugwerthiannau. 

3-3.30pm: Egwyddorion rheoli
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ddamcaniaethau arweinyddiaeth a rheolaethmodern gan roi sylw i ddylanwad diwylliant sefydliadol ar arferion arweinyddiaeth. 

3.30-4.30pm: Hyrwyddo cynaliadwyedd ac arferion da amgylcheddol
Bydd y dosbarth hwn yn trafod sut gall sefydliad leihau ei effaith ar yr amgylchedd alleihau ei ôl troed carbon. 

Dydd Gwener 21 Hydref 

10-10.30am: Cymraeg 
Bydd y sesiwn hon yn datblygu’ch dealltwriaeth o bwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg yny gweithle gyda chipolwg ar y cyrsiau sydd ar gael i ddatblygu’ch sgiliau. 

11-11.45am: Trosolwg o brentisiaeth cyngor ac arweiniad 
Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’n prentisiaeth sy’n addas ar gyfer pobl sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i eraill. 

1-2pm: Eiriolaeth 
Bydd y sesiwn hon yn cwmpasu egwyddorion eiriolaeth annibynnol, a chydraddoldeb achynhwysiant mewn eiriolaeth annibynnol. 

1-2pm: Codio
Mae’r dosbarth hwn yn canolbwyntio ar greu cymwysiadau syml mewn C#. 

2-3pm: Gweithdy CV 
Cyflwynir y sesiwn hon gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol a bydd yn edrych ar yr hyn syddei angen i greu CV da, gan gynnwys fformatio, gosodiad ac iaith, a bydd yn trafod yr hynmae cyflogwyr yn edrych amdano mewn CV llwyddiannus. 

Archebwch le nawr!

Gweld cyrsiau i oedolion sy'n ddysgwyr

Cysylltwch â ni!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y sesiynau Wythnos Addysg Oedolion neu hoffech ddysgu rhagor, cysylltwch â ni: 

E-bost: training@gcs.ac.uk 

Ffôn: 01792 284400

Tags: