Skip to main content
Tri chwaraewr Pro:Direct yn eu cit a dau ddarlithydd/hyfforddwr yn sefyll mewn ffurf V o flaen Campws Tycoch

Treialon Academi Pêl-droed Dynion Pro:Direct i bobl 16–18 oed wedi’u cyhoeddi ar gyfer 22 Chwefror

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o lansio Academi Pêl-droed De Cymru Pro:Direct, yr unig Academi Pêl-droed yng Nghymru! 

Sefydlwyd yn 2010, mae Academïau Pro:Direct ar gyfer chwaraewyr ifanc o bob rhywedd. Maen nhw’n rhoi modd i chwaraewyr hyfforddi’n amser llawn fel chwaraewyr proffesiynol, gyda hyfforddwyr trwyddedig UEFA a’r Gymdeithas Bêl-droed, gemau cystadleuol wythnosol a rhaglenni ffitrwydd ac adferiad ar lefel broffesiynol. 

Ochr yn ochr ag Academi De Cymru, gall chwaraewyr ddewis astudio ar un o’r cyrsiau niferus yn y Coleg sy’n cyd-fynd â’r slotiau hyfforddi a’r gemau. Mae llawer o’r chwaraewyr yn dewis astudio cwrs Tystysgrif neu gwrs Diploma Cenedlaethol mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Pêl-droed, ond mae cyrsiau eraill ar gael hefyd.

“Mae’r Academi Pro:Direct yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi creu sawl cyfle i mi eleni, ar y cae ac oddi arno,” meddai Jacob Evans, dysgwr Hyfforddiant a Pherfformiad Pêl-droed yn ei ail flwyddyn. 

“Mae wedi sicrhau tocynnau i mi wylio Manchester United yn erbyn Lerpwl ac wedi rhoi’r cyfle i mi fynd i Barc San Siôr i gwrdd â thîm cenedlaethol Lloegr a’u gwylio nhw’n hyfforddi. Dwi hefyd wedi mynychu Treialon Rhanbarthol y De er mwyn bod yn rhan o  Pro:Direct Cenedlaethol 11 a chwarae yn erbyn academïau proffesiynol.”

Ddydd Mercher 22 Chwefror, mae Academi Dynion Pro:Direct De Cymru yn cynnal treialon ar gae 4G Pen-yr-heol (Heol Pontarddulais, Gorseinon, SA4 4FG) rhwng 10am a 12.15pm

Mae croeso i’r holl wrywod 16–18 oed a hoffai ddechrau ym mis Medi 2023 ddod i’r treialon, sydd hefyd yn cynnwys ymweliad gan y Nike Boot Van a chyfle i ennill gwobrau cystadleuaeth.

Os hoffech chi fynychu neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y treailon neu’r Academi yn gyffredinol, e-bostiwch richard.south@prodirectacademy.com.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Academi, ewch i'r wefan.