Skip to main content

Yr Academi Rygbi yn ennill Tlws Cynghrair Colegau Elit Undeb Rygbi Cymru

Mae Academi Rygbi Coleg Gŵyr Abertawe wedi cipio Tlws Cynghrair Colegau Elit Undeb Rygbi Cymru ar ôl ennill pob un ond tair gêm eleni.

“Mae ennill y tlws yn llwyddiant mawr i'r tîm ac yn un o'r targedau roedden ni wedi'u gosod i'n hunain ar ddechrau'r tymor," dywedodd y darlithydd Dan Cluroe.

Mae blwyddyn lwyddiannus yr Academi wedi gorffen gyda saith o'i chwaraewyr XV 1af yn cynrychioli tîm dan 18 y Gweilch yn rownd derfynol y gystadleuaeth ranbarthol gradd oedran, gyda'r tîm yn dathlu buddugoliaeth dda yn erbyn Gleision Caerdydd.

Mae dau chwaraewr, Matthew Aubrey a Mitchell Walsh, hefyd wedi cael eu dewis i chwarae yng ngharfan dan 18 Cymru a byddan nhw'n dechrau yn erbyn Ffrainc fel mewnwyr ddydd Sul yma yn Marcoussis.

“Mae'r tîm wedi chwarae'n wych trwy gydol y tymor,” ychwanegodd Dan. “Mae'n anodd dewis un uchafbwynt ond byddai curo ein cystadleuwyr lleol Castell-nedd dair gwaith yn un ohonyn nhw yn bendant. Rydyn ni'n awyddus iawn i barhau â'r llwyddiant hwn yn yr wythnosau nesaf - pan fyddwn ni'n chwarae mewn dwy gystadleuaeth 7 bob ochr Cymru - ac ar ôl hynny pan fyddwn ni'n gorffen ein tymor gyda chystadleuaeth 7 bob ochr Ysgolion Cenedlaethol Parc Rosslyn, y gystadleuaeth 7 bob ochr mwyaf yn y byd.”