Skip to main content
 

Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn i fusnesau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i ddarparu atebion hyfforddi wedi’u teilwra i fusnesau ledled Cymru.

Gyda ffocws ar uwchsgilio gweithluoedd a datblygu cyfleoedd i dyfu, mae’r Coleg arobryn yn cynnig nifer o gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn* sy’n dechrau ar ddiwedd mis Mai.

Mae meysydd yn cynnwys:

Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad/gwasanaeth cwsmeriaid, addas i’r rhai sy’n gweithio mewn rôl sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, p’un ai yw mewn amgylchedd canolfan gyswllt, gwasanaethau tai, hybiau cymunedol, ysbytai, lletygarwch neu adwerthu.

Rheoli cyfleusterau, perffaith i unigolion sy’n rheoli neu’n goruchwylio safleoedd - boed hynny mewn swyddfeydd, ysgolion, cartrefi gofal neu gyfleusterau/lleoliadau digwyddiadau.

Rheoli adnoddau cynaliadwy, delfrydol i’r rhai sy’n gweithio mewn canolfannau ailgylchu, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, gwasanaethau carchardai, a chyfleusterau hamdden.

Rhaglenni digidol a gweinyddu busnes, i’r rhai sy’n gweithio mewn rolau swyddfa ar draws diwydiannau a sectorau amrywiol gan gynnwys y sector cyhoeddus, cwmnïau cyfrifeg, cwmnïau yswiriant ac asiantaethau recriwtio.

Gall busnesau cymwys, eu gweithwyr ac unigolion elwa ar y cynnig wedi’i ariannu’n llawn hwn. Mae hyfforddiant hyblyg ar gael, a bydd cyfranogwyr yn astudio cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol neu raglen wedi’i theilwra sy’n berthnasol i’r gweithle.

Mae cyn gyfranogwyr y rhaglen wedi elwa ar fwy o hyder, cymhelliant, cynhyrchedd a gwell teyrngarwch a chyfraddau cadw gweithwyr.

Wrth siarad am sut mae cyflogwyr wedi elwa ar y cymorth hwn, dywedodd Sarah Jenkins, Cyfarwyddwr Dros Dro Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Mae gweithio gyda darparwyr fel Coleg Gŵyr Abertawe wedi rhoi mwy o gyfle i’r sefydliad weithio’n gydlynol ac ar y cyd i ddatblygu cynlluniau hyfforddi gan ddefnyddio dull strategol.”

Dywedodd Rachel Healion, Partner Busnes Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yng Nghyngor Abertawe: “Rydyn ni’n gweithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe i gynnig ystod eang o gyrsiau ar draws amrywiaeth o feysydd gwasanaeth yn ein sefydliad. Mae’r Coleg wedi gweithio’n agos iawn gyda ni i ddatblygu rhaglen bwrpasol sy’n cyd-fynd â’n hamcanion strategol a’n blaenoriaethau.” 

Dywedodd Claire Emery, Pennaeth Canolfannau Cyswllt yn TUI Group: “Rydyn ni wedi gorfod bod yn ystwyth a hyblyg yn ein dulliau o ddysgu a datblygu ein pobl. Bydd y bartneriaeth lwyddiannus sydd wedi’i ffurfio gyda’n tîm hyfforddi a Choleg Gŵyr Abertawe wir yn cryfhau sgiliau, yn darparu llwybr gyrfa strwythuredig i’n pobl, ac yn gyffredinol, yn brofiad gwell i’n cwsmeriaid.”

Dywedodd Denna Exon-Smith, Rheolwr Iechyd a Diogelwch yn Solo Service Group: “Trwy lanw  a thrai’r marchnadoedd sy’n newid o hyd, newidiadau economaidd a datblygiadau technolegol, mae Solo wedi cynnal ymagwedd arloesol at fusnes. Mae’r bartneriaeth werthfawr â Choleg Gŵyr Abertawe wedi cefnogi a chynorthwyo hyn yn fawr. Mae ein cysylltiadau yn y Coleg wedi canolbwyntio ar ein hanghenion busnes a gofynion hyfforddi dilynol, ac maen nhw wedi rhoi cyngor arbenigol ar yr hyfforddiant, y tiwtora a’r cymwysterau sydd ar gael yn y DU. Rydyn ni’n teimlo’n ddiogel gan wybod bod y cysylltiad â’r Coleg wedi cynorthwyo Solo a’n holl bobl yn llwyddiannus iawn.”

Wrth siarad am ei brofiad personol fel dysgwr, dywedodd, Nicholas Lyons, Partner Diogelwch Cymunedol a’r Amgylchedd Cartrefi Cymoedd Merthyr: “Penderfynais i astudio’r cwrs oherwydd, fel pawb arall, rydw i eisiau symud ymlaen, rydw i eisiau datblygu, rydw i eisiau gwella fy set sgiliau, felly wnes i’r penderfyniad am y rhesymau hynny. Mae fy mhrofiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn hollol wych, oherwydd y bobl yno, a’r gefnogaeth. Maen nhw gyda chi bob cam o’r ffordd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Maen nhw’n rhoi cymorth i chi. Maen nhw’n rhoi anogaeth i chi. Roedden nhw mor rymusol.”

Dywedodd Bruce Fellowes, Pennaeth Hyfforddiant GCS yn y Coleg: “Rydyn ni’n falch iawn o gynnig yr hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn hwn ac estyn ein cymorth i gyflogwyr a’u gweithluoedd yn yr ardal. Mae ein cyrsiau yn rhoi’r sgiliau perthnasol, diweddaraf sydd eu hangen i ffynnu yn y gweithle, gan rymuso busnesau i barhau i ddatblygu a thyfu.”

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael, cysylltwch â training@gcs.ac.uk a bydd aelod o’r tîm yn gallu rhoi cymorth ac arweiniad i chi.

*i fod yn gymwys, rhaid i gyfranogwyr gofrestru erbyn 31 Mai