Skip to main content
GCS Students using racing gaming rigs

Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio tri chwrs AU newydd

Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch o gyhoeddi lansiad llwyddiannus tri chwrs addysg uwch newydd sbon ar gyfer 2024: Gradd Sylfaen mewn eChwaraeon, BA (Anrh) mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Chwaraeon a BA (Anrh) mewn Addysg, Iechyd Meddwl ac ADY.

Fe wnaeth ddarpar fyfyrwyr o bob cwr o Dde Cymru ymweld â Chanolfan Prifysgol Coleg Gŵyr Abertawe i sgwrsio ag aelodau’r gyfadran a myfyrwyr presennol. Cawsant gyfle hefyd i gwrdd â’n partneriaid prifysgol o Brifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

“Mae ein digwyddiad lansio yn garreg filltir nodedig yn nhaith addysg uwch Coleg Gŵyr Abertawe, ac mae’n adlewyrchiad o’n hymrwymiad hirsefydglog i ddarparu cyrsiau addysg uwch hygyrch ac o ansawdd uchel i’n dysgwyr sy’n rhoi pwyslais ar gyflogadwyedd,” meddai Kelly Fountain, Pennaeth.  

Mae ein cysylltiadau â Phrifysgolion blaenllaw yng Nghymru yn fwy na phartneriaethau academaidd yn unig - maen nhw’n adlewyrchiad o’r weledigaeth a rennir ar y cyd, sef darparu addysg hygyrch a chynhwysol sy’n annog pob unigolyn i fanteisio i’r eithaf ar ei botensial.”

Cafodd ymwelwyr gyfle i fynychu trafodaethau gan siaradwyr gwadd blaenllaw yn y diwydiant, gan gynnwys John Jackson, Prif Weithredwr Echwaraeon Cymru, Alistair McNaught, unigolyn ag ystod eang o brofiad ym meysydd addysg bellach, addysg i oedolion ac addysg uwch.

“Un o’r pethau a wnes i fwynhau fwyaf am y cynnwys cwrs cynhwysfawr oedd ei fod wedi fy helpu i feithrin dulliau addysgu y gallaf eu defnyddio o ddydd i ddydd, yn ogystal ag ymchwil cefndirol,” meddai Alistair am y cwrs BA (Anrh) mewn Addysg, Iechyd Meddwl ac ADY.

Mae’r cwrs BA (Anrh) mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Chwaraeon wedi’i gynllunio i feithrin dealltwriaeth eang o ddatblygiad athletaidd a thechnegau hyfforddi strategol.

“Dyma gam cadarnhaol iawn ym maes Echwaraeon yng Nghymru,” meddai John Jackson. “Mae Gwdihŵs CGA eisoes yn adnabyddus ledled y byd a bydd y cwrs gradd sylfaen hwn yn caniatáu’r Coleg i adeiladu ar y llwyddiant a pharhau i feithrin talent yma yng Nghymru.”

"Rydyn ni mewn sefyllfa unigryw iawn gan fod gennym yr adnoddau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnom i lansio’r cwrs sylfaen hwn ar adeg mor allweddol. Mae Echwaraeon yn ddiwydiant sy’n ehangu ar garlam ac mae’r ffaith mai ni yw’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i gynnig cwrs o’r fath yn adlewyrchiad o’n hymdrechion” meddai Kiran Jones, Darlithydd mewn Cyfrifiadura ac Echwaraeon.

Ac i’r rhai sy’n hoff o gemau cyfrifiadurol, mae’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Echwaraeon yn unigryw iawn gan ei fod yn cyfuno theori, chwarae cystadleuol a seicoleg thrwy brosiectau unigol a digwyddiadau amrywiol. Mae Echwaraeon yn ddiwydiant sy’n tyfu’n gyflym, a’r cymhwyster newydd hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru!

Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n ddiolchgar iawn i’r holl fyfyrwyr a phartneriaid am eu cefnogaeth gwerthfawr wrth greu digwyddiad cofiadwy ac effeithiol iawn. Edrychwn ymlaen at groesawu darpar fyfyrwyr i’r Canolfan Prifysgol a pharhau i feithrin diwylliant o ddysgu, twf a llwyddiant.

Am ragor o wybodaeth am gyrsiau addysg uwch a gynigir gan Goleg Gŵyr Abertawe, ewch i: https://www.gcs.ac.uk/cy/higher-education